Tribiwnlys: 'Trin athrawes yn ffiaidd'

Ysgol Howell's, Dinbych Bu Helen Price yn gweithio yn Ysgol Howell's, Dinbych am 13 mlynedd

Mae dynes gafodd ei ddiswyddo gan ysgol fonedd i ferched yn Ninbych wedi dweud wrth dribiwnlys ei bod wedi cael ei thrin "fel anifail" gan ymddiriedolwyr yr ysgol.

Dywedodd Helen Price, cyn-bennaeth gofal bugeilio Ysgol Howell's ei bod wedi cael ei gwahardd o'i swydd dros dro oherwydd ei pherthynas â'r cyn-brifathro, Bernie Routledge.

Mae'r ddau yn honni eu bod wedi eu diswyddo'n annheg .

Mae'r tribiwnlys yn yr Amwythig wedi clywed fod Mr Routledge wedi ei gyhuddo o sgyrsiau "amhriodol" gyda disgyblion.

'Ffiaidd'

Cafodd Mr Routledge ei wahardd o'i swydd dros dro fel pennaeth yr ysgol ym Mai 2011 yn dilyn pryderon ynglŷn â'i ymddygiad ac wedi iddo gyfathrebu â disgyblion ar wefan Facebook.

Cafodd Mr Routledge ei ddiswyddo'n ddiweddarach yn dilyn gwrandawiad disgyblu.

Cafodd Ms Price, fu'n gweithio yn yr ysgol am 13 mlynedd hefyd ei gwahardd o'i swydd dros dro cyn cael ei diswyddo.

Dywedodd Ms Price wrth y tribiwnlys nad oedd wedi gwneud dim byd o'i le.

Mae hi'n dweud fod yna ymgyrch wedi bod i gael gwared ohoni oherwydd ei pherthynas gyda Mr Routledge.

Ychwanegodd fod ganddi berthynas waith da gyda'r ymddiriedolwyr Robbie a Nicola Locke tan fis Ionawr 2011.

Ond honnodd Ms Price ei bod wedi cael ei thrin mewn modd "ffiaidd ac annheg iawn" ar ôl hynny.

Achos cwyn

Dywedodd Ms Price wrth y tribiwnlys fod celwyddau wedi eu dweud amdani ac am ei gwaith a phenderfynodd dwyn achos cwyn yn erbyn yr ymddiriedolwyr.

Ychwanegodd ei bod yn dal i aros am ganlyniad yr achos ac nad oedd wedi cael gwrandawiad disgyblu.

Clywodd y tribiwnlys fod Ms Price wedi beichiogi tra'u bod wedi ei gwahardd o'r gwaith dros dro.

Ychwanegodd ei bod wedi derbyn llythyr yn terfynu ei chyflogaeth ddiwrnodau cyn yr oedd i fod dychwelyd i'w gwaith.

Clywodd y tribiwnlys fod y llythyr wedi cynnig i Ms Price apelio yn erbyn y penderfyniad ac fe wnaeth hynny, ond ni chafodd unrhyw ymateb.

Mae'r tribiwnlys yn parhau.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.