Blwyddyn arall

Michael Laudrup Bydd Michael Laudrup yn aros yn Abertawe tan 2015

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cyhoeddi bod eu rheolwr, Michael Laudrup, wedi arwyddo cytundeb newydd gyda'r clwb.

Mae'r cytundeb yn golygu y bydd y gŵr o Ddenmarc yn aros yn Stadiwm Liberty tan Fehefin 2015.

Bu peth dyfalu y byddai Laudrup yn gadael y clwb ar ddiwedd y tymor, gyda nifer o glybiau, gan gynnwys Real Madrid a Chelsea, wedi cael eu henwi fel rhai fyddai â diddordeb i sicrhau ei wasanaeth.

Cynyddu wnaeth y sibrydion wrth i Laudrup arwain ei dîm i fuddugoliaeth yng Nghwpan Capital One yn Wembley fis diwethaf.

Mae'r clwb yn wythfed yn Uwchgynghrair Lloegr ac eisoes wedi cyrraedd y nod o 40 pwynt i aros yno am dymor arall.

Oherwydd eu buddugoliaeth yn y cwpan, bydd Abertawe hefyd yn cystadlu yng Nghynghrair Europa y tymor nesaf - y tro cyntaf i glwb o Gymru gynrychioli Lloegr yn y gystadleuaeth.

Dywedodd Laudrup: "Rydym wedi dechrau rhywbeth y tymor hwn yr wyf yn awyddus i barhau.

"Rwy'n gwybod bod llawer o sibrydion am fy nyfodol ond rwyf wedi dweud bob tro fy mod yn hapus yma, a doedd gen i ddim amheuaeth mewn gwirionedd y byddwn yn aros."

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.