BT i greu 100 o swyddi newydd yng Nghymru

Ceblau rhyngrwyd Bydd 30 o'r swyddi ar gyfer prentisiaid

Straeon Perthnasol

Bydd BT yn creu 100 swydd newydd yng Nghymru, rhan o gynllun i greu 1,000 o swyddi yn y DG.

Bydd y swyddi ar gyfer peirianwyr oherwyd bwriad i osod band eang ffibr optig mewn cartrefi.

Ymhlith y 100 o swyddi bydd 30 ar gyfer prentisiaid.

Eisoes cyhoeddwyd bwriad i gyflogi 100 o brentisiaid yng Nghymru fel rhan o gynllun Cyflymu Cymru wrth i Lywodraeth Cymru anelu at sicrhau bod hyn yn effeithio ar 96% o gartrefi a busnesau'r wlad.

Wyth ardal

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yr wythnos hon: "Rwy'n croesawi'r cynllun i greu swyddi ar gyfer prentisiaid oherwydd mae hyn yn dangos bod buddsoddiad mewn band eang yn dod â buddion economaidd i Gymru."

Mae'r gwaith o geisio sicrhau bod gan Gymru gysylltiad band eang o safon ryngwladol eisoes wedi dechrau.

Bydd miloedd o filltiroedd o geblau opteg ffibr uwch gyflym yn cael eu gosod mewn wyth ardal - Glyn Ebwy, Tredegar, Bangor, Caernarfon, Dolgellau, Porthaethwy, Porthmadog a Phwllheli.

Mae'n golygu y bydd gan 32,000 o gartrefi a busnesau gysylltiad cyflymach o lawer i'r we, gyda disgwyl i'r cwsmeriaid cynta' fod wedi'u cysylltu erbyn diwedd Mehefin.

Eisoes mae'r gwaith yn mynd rhagddo ym Mangor, a bydd y peirianwyr yn symud wedyn i Sir Fôn.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.