Organau: Gweinidog yn 'creu sefyllfa ddryslyd'

Cerdyn rhoi organau Gallai'r drefn newydd ddod i rym erbyn 2015

Straeon Perthnasol

Mae Archesgob Cymru wedi cyhuddo Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru o "greu sefyllfa ddryslyd" ynghylch rhoi organau.

Byddai Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) yn golygu tybiaeth fod pawb, os nad ydyn nhw'n gwrthwynebu, yn fodlon rhoi eu horganau ar ôl marw.

Os bydd ACau yn ei gymeradwyo, gallai'r drefn newydd ddod i rym erbyn 2015.

Ond yn ôl Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, mae 'na "ddryswch llwyr" o ran swyddogaeth y teulu.

'Tanseilio'

"Mae'r Gweinidog Iechyd wedi creu sefyllfa ddryslyd i ryw raddau, gan ddweud y bydd barn teuluoedd yn cael ei hystyried," meddai.

"Pa aelodau o'r teulu? Sut bydd hyn yn digwydd?

"Rwy'n credu y bydd hyn yn arwain at sefyllfa ddryslyd, gan danseilio holl bwrpas y bil.

"Rwy'n credu y byddai'n llawer gwell i geisio perswadio pobl i nodi eu bod yn cytuno yn hytrach na chreu system sy'n tybio bod pobl yn cytuno ... bydd yn arwain at neb yn gwybod beth yw'r drefn."

Archesgob Cymru Dr Barry Morgan Dywed Dr Barry Morgan bod Llywodraeth Cymru wedi creu dryswch

Dywedodd ei fod yn credu bod Llywodraeth Cymru'n bwrw ymlaen gyda'r cynllun heb ystyriaeth briodol.

"Rwy'n credu eu bod wedi penderfynu y bydd hon yn ddeddfwriaeth eiconig iddyn nhw ac maen nhw'n bwrw yn eu blaenau er bod pwyllgor iechyd y Cynulliad wedi gwrthwynebu caniatâd tybiedig rai blynyddoedd yn ôl a bod pwyllgor yn San Steffan wedi ei wrthwynebu."

'Eglurder a chysondeb'

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad yn dadansoddi tystiolaeth am y mater ar hyn o bryd cyn cyflwyno adroddiad i ACau.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Mark Drakeford, ei fod am i'r gweinidog ddangos eglurder o ran swyddogaeth y teulu.

"Rwy'n credu bod pobl yn poeni nad yw safiad y Llywodraeth mor glir a chyson ag y maen nhw'n meddwl y dylai fod ar ddiwedd y broses hon," meddai.

"Os yw'r pwyllgor iechyd yn gallu derbyn un neges oherwydd y broses, honno yw'r angen am eglurder a chysondeb o ran sut y bydd swyddogaeth y teulu yn cael ei disgrifio yn y ddeddfwriaeth a sut y bydd yn cael ei gweithredu."

Yn glir

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod safbwynt y gweinidog, Lesley Griffiths, yn glir o ran swyddogaeth y teulu.

"Mae system ymeithrio yn golygu y gall teuluoedd a phobl eraill sy'n agos i'r ymadawedig ddarparu gwybodaeth a fyddai'r ymadawedig wedi gwrthwynebu ai peidio," meddai.

"Mae gan deuluoedd ran bwysig i chwarae yn y broses roi organau ac fe fydd hyn yn parhau o dan y trefniadau newydd."

Bydd ACau yn pleidleisio ar egwyddorion cyffredinol y bil ym mis Ebrill.

Hwn yw'r cam cyntaf cyn i'r bil ddod yn ddeddf.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.