Carreg filltir arall i Giggs

Ryan Giggs Giggs yn sgorio yn un o'i dymhorau cynnar yn yr Uwchgynghrair

Straeon Perthnasol

Mae Ryan Giggs wedi cyrraedd sawl carreg filltir ers dod i'r cae fel eilydd i ymddangos yn ei gêm gyntaf i dîm cyntaf Manchester United 22 mlynedd yn ôl.

Mae'n paratoi am un arall yn Old Trafford nos Fawrth yn ail gymal rownd 16 olaf Cynghrair y Pencampwyr yn erbyn Real Madrid.

Dros y blynyddoedd mae wedi bod yn ffigwr allweddol a chyson yng ngharfan Sir Alex Ferguson.

Pan chwaraeodd y gêm gyntaf yna yn erbyn Everton ar Fawrth 2, 1991, doedd nifer o'r garfan bresennol erioed wedi cicio pêl.

Roedd Wayne Rooney yn bump oed, Rafael yn naw mis oed a'r golwr David De Gea yn dri mis oed.

Doedd Phil Jones, un o sêr United yn y cymal cyntaf ym Madrid bythefnos yn ôl, heb ei eni hyd yn oed.

Sawl record

Dros y blynyddoedd, daeth Giggs yn un o enwau mwyaf adnabyddus y byd pêl-droed wrth iddo gyflawni campau sy'n annhebyg o gael eu curo.

Giggs yw'r unig chwaraewr i chwarae, a sgorio, ymhob tymor o Uwchgynghrair Lloegr.

Enillodd mwy o anrhydeddau na'r un arall yn hanes pêl-droed yn Lloegr - 12 medal Uwchgynghrair, pedair Cwpan FA, tair Cwpan y Gynghrair a dwy Gynghrair y Pencampwyr.

Enillodd 64 o gapiau dros Gymru er mai dyma un maes lle cafodd ei feirniadu dros y blynyddoedd, gyda llawer yn credu nad oedd ar gael i Gymru yn ddigon aml mewn gemau cyfeillgar.

Gwelodd ei unig gerdyn coch o'i yrfa wrth wisgo crys Cymru hefyd.

Ryan Giggs Sgoriodd Giggs am y 23ain tymor yn olynol yn yr Uwchgynghrair yn erbyn Everton yn ddiweddar
'Cofio'n well'

Ond ar drothwy carreg filltir arall, mae Giggs yn mwynhau cymaint, os nad mwy nag erioed.

"Ar ddechrau gyrfa mae rhywun yn gosod targedau i'w hun," meddai.

Start Quote

Dim ond dau chwaraewr sydd wedi gwneud i mi lefain wrth wylio pêl-droed - un oedd Diego Maradona a'r llall oedd Ryan Giggs”

End Quote Alessandro Del Piero Juventus a'r Eidal

"Cyrraedd y tîm cyntaf ac aros ynddo i ddechrau, ac yna ennill pethau.

"Ond dyw rhywun byth yn credu y bydd yn cyrraedd 1,000 o gemau.

"Wrth i mi fynd yn hŷn, rwy'n cofio pethau'n well. Er enghraifft dwi'n cofio Cynghrair y Pencampwyr yn 2008 yn well nag un 1999."

Mae ei yrfa wedi denu clod gan ffigyrau amlyca'r gamp drwy'r byd, ac yng nghanol y frwydr ar faes y Bernebeu ym Madrid bythefnos yn ôl, cafodd Giggs groeso twymgalon gan y cefnogwyr cartref pan ddaeth i'r maes.

"Roedd hynny'n rhyfedd," medd Giggs. "Roeddwn i'n sylweddoli beth oedd yn digwydd, ond nes i ddim meddwl amdano tan ddiwedd y gêm.

"Rwyf am ddiolch i gefnogwyr Madrid am y croeso a gefais. Roedd yn rhywbeth arbennig iawn."

Eisoes mae Ferguson wedi dweud y bydd Giggs yn rhan o'i gynlluniau ar gyfer yr ail gymal yn Old Trafford nos Fawrth, gan ddweud bod profiad yn amhrisiadwy mewn gemau mawr fel hyn.

Efallai na fydd y Madridistas mor gynnes eu croeso os fydd y Cymro yn mynd â Manchester United gam yn agosach at gipio Cynghrair y Pencampwyr ar draul Real.

Teyrngedau

Mae yna beth anghytuno am union nifer y gemau y mae Giggs wedi eu chwarae i United, ond mae'r chwaraewr a'i reolwr yn credu mai nos Fawrth fydd ei filfed ymddangosiad, ac efallai bod teyrngedau chwaraewyr eraill yn dweud y cyfan am y dewin o Gymru.

Dywedodd cyn ymosodwr yr Eidal, Alessandro Del Piero: "Dim ond dau chwaraewr sydd wedi gwneud i mi lefain wrth wylio pêl-droed - un oedd Diego Maradona a'r llall oedd Ryan Giggs."

Ac efallai'r deyrnged orau oedd gan un arall o fawrion Old Trafford, George Best, pan ddywedodd rai blynyddoedd yn ôl:

"Efallai un diwrnod y bydd pobl yn dweud fy mod i yn Ryan Giggs arall."

Clod yn wir.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.