Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro am ambiwlansys yn gorfod aros

Ambiwlansys yn ciwio'r tu allan i Ysbyty Maelor Wrecsam Roedd adroddiadau fod hyd at naw ambiwlans yn aros y tu allan i Ysbyty Maelor Wrecsam

Straeon Perthnasol

Mae bwrdd iechyd wedi ymddiheuro ar ôl i nifer o ambiwlansys orfod aros y tu allan i ysbyty ddydd Llun.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, cynnydd yn nifer y cleifion a'r rhai yn dod i'r adran ddamweiniau oedd y rheswm dros yr oedi.

Roedd adroddiadau fod hyd at naw o ambiwlansys yn aros y tu allan i Ysbyty Maelor Wrecsam ar un adeg.

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd fod gwelyau eraill yn cael eu hagor a staff ychwanegol yn cael eu galw mewn i ddelio gyda'r sefyllfa.

Y llynedd roedd 'na gwyno am oedi yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.

Ar y pryd fe wnaeth yr Arolygiaeth Gofal Iechyd yng Nghymru 20 o argymhellion ar gyfer gwelliannau wedi iddi ddod i'r amlwg fod pum ambiwlans yn gorfod aros y tu allan i adrannau brys yn rheolaidd.

Pwysau ychwanegol

Ddydd Llun, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

"Dros yr wythnosau diwetha' mae 'na gynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y cleifion sâl sy'n cael eu cludo i'r ysbyty, sydd wedi rhoi pwysau cynyddol ar welyau wrth i gleifion orfod aros yn hirach yn yr ysbyty na'r arfer.

"Mae pwysau ar yr adran frys yn newid yn ystod y dydd, ac o ddydd i ddydd, ac mae'r adran ddamweiniau yn Ysbyty Maelor Wrecsam hefyd yn delio â nifer uchel o gleifion."

Dywedodd y llefarydd fod y bwrdd yn gweithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a meddygon teulu i geisio gostwng nifer y cleifion a lleihau'r oedi yn yr adran ddamweiniau pan ei bod yn bosib.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Maes yr Eisteddfod GenedlaetholBargeinion y brifwyl yn Sir Gâr

    Yr Eisteddfod Genedlaethol yn cynnig tocynnau am £10 ar gyfer y brifwyl eleni i bobl sydd yn eu prynu mewn da bryd.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


  • Dolffiniaid'Y cysylltiad agos'

    Dathlu'r cysylltiad rhwng Ceredigion a dolffiniaid trwynbwl ar ddiwrnod arbennig.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.