Damwain: Enwi dyn 20 oed fu farw
Mae Heddlu De Cymru wedi enwi dyn 20 oed fu farw ar ôl damwain ym Merthyr Tudful yn oriau mân ddydd Gwener.
Roedd Josh Williams yn dod o'r ardal leol.
Fe ddigwyddodd y ddamwain am 3.40am ar Stryd Fawr Pendarren.
Fe wnaeth car Rover glas adael y ffordd a gwrthdaro â choeden.
Dywedodd Clwb Pêl-droed Merthyr bod Mr Williams wedi chwarae i'r tim dan-16, ac y byddan nhw'n cynnal munud o dawelwch amdano cyn eu gêm nesaf nos Fawrth ym Mharc Penydarren.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio am dystion i'r ddamwain.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~54~RS~)

Ynys Môn: Comisiynwyr yn gadael
Cyhoeddi enw'r milwr gafodd ei ladd
Sioe myfyrwyr yn delio â dementia
Llwyfan i dalent y sir
Guggenheim i Gymru?
Bradley'n arwain y daith