Damwain farwol: Apêl
Digwyddodd y ddamwain ddydd Sadwrn
Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio i ddamwain farwol ar Ynys Môn ddydd Sadwrn.
Bu farw dyn lleol 32 oed a chafodd tri eu hanafu yn y ddamwain ar yr A5025 i'r gogledd o Lanfaethlu tua 2:00am.
Mae dyn lleol 23 oed wedi cael ei arestio.
Aed â'r tri a gafodd eu hanafu i Ysbyty Gwynedd, Bangor, ond nid yw eu hanafiadau yn ddifrifol.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un â welodd y car Ford Fiesta coch yn cael ei yrru cyn y ddamwain i gysylltu â nhw ar 101.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~04~RS~)

Rali i wrthwynebu newidiadau addysg
Cymraes yw gobaith mawr Prydain
Golwg gyntaf ar gadair a choron
Enillwyr cystadlaethau celf Yr Urdd
Beth yw'r ots am ramadeg y Gymraeg?