Arolwg Iechyd: Dim holi am gamblo

Olwyn rwlét Mae gamblo ar-lein yn cyflogi tua 7000 o bobl yn y DU

Straeon Perthnasol

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cais gan y Comisiwn Gamblo i gynnwys cwestiynau ynghylch gamblo yn Arolwg Iechyd Cymru, mae rhaglen materion cyfoes BBC Radio Wales 'Eye on Wales' wedi darganfod.

Mae'r penderfyniad wedi siomi rhai sy'n poeni am gynnydd mewn gamblo ac sy'n bryderus bod twf mewn hapchwarae ar y rhyngrwyd - bingo, peiriannau slot a thablau roulette - yn denu cenhedlaeth newydd o gamblwyr.

Mae'r rhaglen yn clywed gan bobl sy'n gaeth sydd wedi cronni miloedd o bunnoedd o ddyledion ar ôl dod yn gaeth i beiriannau slot ar-lein; mae un hyd yn oed wedi dwyn o'i merch i fwydo ei harfer.

Mae Eye on Wales hefyd yn datgelu ffigurau newydd gan elusen ymchwil cymdeithasol NatCen sy'n awgrymu y gallai fod o leiaf 20,000 o gamblwyr 'problemus' yng Nghymru.

'Siomedig'

Dywedodd Mick Antinow, AC Pontypridd sy'n aelod o Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad, ei fod yn "siomedig ond ddim yn synnu" na fydd cwestiynau ynghylch gamblo yn Arolwg Iechyd Cymru.

"Does dim llawer o werthfawrogiad am broblemau gamblo - dyna pam mae gamblo ar-lein wedi gallu ehangu mor aruthrol.

"Byddwn i wedi meddwl y byddai cynnwys cwestiwn am gamblo yn yr arolwg yn gam naturiol.

"Mae nifer o gwestiynau manwl am alcohol ac iechyd meddwl, felly mae rhan o'r hafaliad ar goll."

'Pynciau craidd'

Mewn datganiad dywedodd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths ei bod yn "ymwybodol o'r effaith y mae gamblo yn gallu'i gael" ond ei fod yn bwysig i'r arolwg "ganolbwyntio ar bynciau craidd sy'n ddefnyddiol i ystod eang o ddefnyddwyr".

Fe fydd Mick Antinow yn lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth am beryglon gamblo ar-lein yn ddiweddarach y mis hwn, gyda chyflwyniad yn y Cynulliad.

Mae busnes yn ffynnu i'r diwydiant gamblo ar-lein - mae'n werth £2 biliwn ac mae'n cyflogi tua 7000 o bobl yn y DU yn unig. O bêl-droed i bingo, roulette i beiriannau slot ar-lein, gallwch betio ar unrhyw beth ar unrhyw funud o'r dydd a'r nos, ond nid yw pawb ar eu hennill.

Dywedodd un fu'n gaeth i gamblo ar-lein y daeth hi i wirioni ar beiriannau slot ar-lein, yn chwarae drwy'r nos hyd nes oedd hi wedi colli popeth - yna cofrestru ar gyfer benthyciadau diwrnod cyflog i barhau i gamblo, clywed swn y gemau yn ei breuddwydion - a hyd yn oed yn cymryd arian oddi wrth ei merch i dalu am ei harfer.

"Cefais fy hun yn crafu o gwmpas y tŷ cyfan yn chwilio am arian, gan gynnwys ystafell wely ein merch, a chael arian yr oedd hi'n cadw mewn tun. Roeddwn yn cymryd yr arian heb feddwl am yr hyn yr oeddwn yn ei wneud ... "

EYE ON WALES, BBC RADIO WALES, 1:30pm Dydd Sul

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.