'Trefn gyfreithiol i Gymru yn rhatach'
Elfyn Llwyd: "Lle mae Llafur yn gweld rhwystrau, mae Plaid Cymru'n gweld cyfle"
Byddai creu cyfundrefn gyfreithiol i Gymru yn rhatach na pharhau ynghlwm wrth Loegr yn ôl arweinydd seneddol Plaid Cymru wrth gynhadledd wanwyn y blaid.
Yn dilyn araith arweinydd y blaid Leanne Wood ar y dydd Gwener yn beirniadu diffyg uchelgais y blaid Lafur ym maes addysg, mae Elfyn Llwyd wedi beirniadu eu diffyg brys i ddatganoli mwy o bwerau i Gymru.
"Roedd y refferendwm yn arwydd o newid," meddai.
"Ond mae disgwyl am y newid hwnnw yn rhwystredig o dan arweiniad Llafur di-ddychymyg a blinedig Bae Caerdydd.
"Dro ar ôl tro, mae'n grŵp ni yn San Steffan wedi gweld Llafur yn methu yn eu dyletswydd i bobl Cymru trwy fod yn rhy rhwym i'w harweinwyr yn Llundain."
'Treth ystafell wely'Dywedodd bod Plaid Cymru, gyda'r SNP a'r Blaid Werdd, wedi gorfod cymeryd yr awenau i herio'r glymblaid yn San Steffan ar yr hyn sy'n cael ei alw gan wrthwynebwyr newidiadau budd-dal yn "dreth ystafell wely".
Galwodd am ddatganoli grymoedd i Gymru i fod yn gyfartal â Lloegr.
Dywedodd bod angen "partneriaeth gyfartal" ar wledydd y Deyrnas Gyfunol, a bod angen datganoli'r gyfundrefn gyfreithiol i Gymru.
Gwrthododd unrhyw awgrym gan Lafur y byddai'n rhy ddrud i wneud hynny.
"Lle mae Llafur yn gweld rhwystrau, mae Plaid Cymru'n gweld cyfle.
"Wrth reswm, dylai datganoli pellach fynd law yn llaw â chyllideb addas i'r pwerau hynny.
"Wedi'r cyfan, mae'r gyfundrefn gyfiawnder yn yr Alban yn llai costus y pen nag yng Nghymru na Lloegr - does dim angen i ddatganoli olygu cynnydd mewn costau."
'Cyfrifoldeb'Wrth agor ail ddiwrnod y gynhadledd, galwodd cadeirydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones, am newid meddylfryd yng Nghymru.
Dywedodd bod angen cydweithio a chymryd y cyfrifoldeb i newid Cymru.
"Peidiwch ag aros iddyn 'nhw' ddod â ffatri i Gymru a gobeithio y caiff swyddi eu creu," meddai.
Gadewch i ni wneud y peth ein hunain.
"Gadewch i ni wario ein harian yn ddoethach a chefnogi ein busnesau, i gryfhau ein heconomi a chreu'r swyddi y mae cymaint o angen arnom."
Fe wnaeth Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams hefyd annerch y gynhadledd, gan drafod newidiadau i fudd-daliadau.
Bu sesiwn drafod ar yr iaith yn y bore dan y pennawd "gweithredu dros y Gymraeg."
Iaith y gweithleGalwodd AS Arfon Hywel Williams ar i Gyngor Sir Caerfyrddin i ddilyn esiampl Cyngor Gwynedd sydd dan arweiniad Plaid Cymru wrth wneud y Gymraeg yn iaith y gweithle.
Roedd trafod hefyd ar sut i fagu hyder siaradwyr Cymraeg i ddechrau pob sgwrs yn y Gymraeg.
Am y tro cyntaf wedi ei sefydlu'n ffurfiol, roedd tîm yr arweinydd hefyd yn ymateb i gwestiynau.
Cafodd y tîm ei sefydlu mewn cynhadledd arbennig fis Chwefror wedi adolygiad mewnol o Blaid Cymru.
Yn ôl yr arweinydd Leanne Wood, mae'r tîm wedi bod yn gweithredu ers peth amser, a ffurfioli'r drefn wnaeth y gynhadledd.
Roedd pwyslais y drafodaeth ar etholiadau'r Cynulliad yn 2016.
Dywedodd Ms Wood ei bod yn gobeithio y byddai nifer aelodau'r blaid yn dyblu i 16,000 erbyn yr etholiad hwnnw.
Galwodd ar aelodau'r blaid i gynnal "miliwn o sgyrsiau" ar bolisïau'r blaid gyda phobl Cymru.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~47~RS~)

OFCOM yn herio Comisiynydd
Tân: Diffoddwyr ar y safle o hyd
Sir yn croesawu'r Urdd
Dosbarth ei hun
Dau app Cymraeg
Siwrne olaf