Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi

Mae pob mathau o ddigwyddiadau wedi cael eu cynnal i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi wyl ar hyd a lled y wlad - a thu hwnt - yn cynnwys y gorymdeithiau blynyddol yn Wrecsam a Chaerdydd - a'r gynta' erioed yn Aberystwyth.

Straeon Perthnasol

Mae dathliadau a gorymdeithiau yn cael eu cynnal yng Nghymru a thu hwnt i nodi Dydd Gŵyl Dewi.

Yr uchafbwynt yng Nghaerdydd oedd gorymdaith o Neuadd y Ddinas gan orffen yn Neuadd Dewi Sant gyda gwahoddiad i ganu'r anthem genedlaethol.

Yn y gogledd cafwyd gorymdaith o 600 o blant ym Mae Colwyn, a gorymdaith debyg yn Wrecsam ac yn Nhyddewi lle roedd taith gan bererinion, gan ddiweddu gyda gwasanaeth emynau yn y Gadeirlan.

Ond roedd 'na ddathliad o Gymreictod hefyd yng nghwmni Teulu Brenhinol Monaco wrth i Gymry ddiddori'r Tywysog Albert a'r Dywysoges Charlene.

Ymhlith yr artistiaid yr oedd Côr Meibion Treorci a Rhys Ifans wrth i'r Fonesig Dame Shirley Bassey a rhai o gewri rygbi Cymru a'r Llewod gael eu gwahodd i'r cinio elusennol i godi ymwybyddiaeth o blant mewn chwaraeon ac yn nodi 125 mlynedd ers sefydlu Undeb Rygbi Cymru.

Dyma'r tro cyntaf i'r cwpl gael eu diddori gan gôr o Gymru.

Roedd cwmnïau ac elusennau hefyd yn defnyddio'r diwrnod i hybu busnes ac i godi ymwybyddiaeth.

Cwrw

Mae bragdy lleol yng Nghonwy wedi creu cwrw arbennig ar gyfer yr achlysur, cwrs sy'n cynnwys cennin wedi ei garameleiddio.

Mae gerddi Aberglasne yn Sir Gaerfyrddin yn fôr o liw gyda 350 gwahanol fath o gennin Pedr - dros 30,000 o blanhigion - yn rhan o'u dathliadau Mawrth 1.

Cerfluniau o Ness o'r gyfres Gavin and Stacey, y chwaraewr rygbi Gethin Jenkins, y canwr Tom Jones ac Owain Glyndwr yn yr orymdaith yng Nghaerdydd. Cerfluniau o Ness o'r gyfres Gavin and Stacey, y chwaraewr rygbi Gethin Jenkins, y canwr Tom Jones ac Owain Glyndwr yn yr orymdaith yng Nghaerdydd.

Mae yna achlysur arbennig yn Downing Steet wrth i gartref swyddogol y Prif Weinidog groesawu plant o Gymru sy'n diodde' o ganser.

Yno hefyd i'w cynorthwyo oedd rhieni, nyrsys a gweithwyr cymdeithasol.

Negeseuon

Mae baner y Ddraig Goch yn chwifio uwchben Rhif 10 hefyd.

Mae arweinwyr crefyddol a gwleidyddion hefyd yn nodi'r diwrnod.

Fe wnaeth Archesgob Cymru Dr Barry Morgan sôn am bwysigrwydd perthyn i "bentref byd-eang" mewn gwasanaeth cenedlaethol yn Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr yng Nghaerdydd.

Ymhlith y gynulleidfa roedd Tywysog Cymru a Duges Cernyw, aelodau o Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol.

Yn ei anerchiad dywedodd yr Archesgob ei bod yn bosib bod yn falch o fod yn Gymry heb "fod yn senoffobig a thorri ein hunain ymaith o ddealltwriaeth pobloedd, hil a chenhedloedd eraill".

Busnes

Dathlu'r diwrnod yn Barcelona y mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones gan ddweud bod Cymru yn agored i fusnes.

"Mae'n rhaid i ni hefyd fod yn agored i wledydd eraill a gwneud cysylltiadau tramor.

Y Ddraig Goch Mae baner Cymru yn chwifio uwchben Downing Street

"Mae'n rhaid i ni fod yn hyderus a di-ofn am yr hyn sydd gennym i'w gynnig. Mae'n rhaid i ni gyfleu neges glir i'r byd: mae Cymru yn barod ac ar agor i fusnes."

Fe ddywedodd David Cameron y bydd pobl o bob cwr o Gymru ac ar hyd a lled y byd yn dathlu "popeth y mae'n ei olygu i fod yn Gymry ar ddydd Gŵyl Dewi eleni".

"Rwy'n falch iawn o chwifio'r Ddraig Goch uwchben Downing Street heddiw, a hoffwn ddymuno Dydd Gŵyl Dewi Hapus i bawb."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • BBC Cymru FywGwasanaeth newydd BBC Cymru Fyw

    Mae BBC Cymru yn gwneud newidiadau i'r wefan hon wrth i wasanaeth ar-lein newydd o'r enw BBC Cymru Fyw gael ei lansio.


  • Hel achau ym MangorCyfle i hel achau ym Mhrifysgol Bangor

    Gall unrhyw un sy'n ymchwilio i hanes eu teulu gael mynediad at gronfa ddata helaeth o gofnodion yn Archifau Prifysgol Bangor.


  • Minci AmericanaiddPwy sydd wedi gweld minc?

    Cadwriaethwyr yn galw am gymorth y cyhoedd wrth geisio lleihau nifer y mincod Americanaidd er mwyn gwarchod anifail prin.


  • Portread o William ShakespeareShakespeare: 'Gwedd wahanol' i Gymru?

    A ddylid addasu Shakespeare i'r Gymraeg? Mae arbenigwyr yn rhannu eu barn wrth i'r dathliadau swyddogol ddechrau i nodi 450 o flynyddoedd ers geni'r bardd.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.