Eisteddfod yr Urdd yn Llundain
Cynhelir yr Eisteddfod yng Nghapel Jewin, Llundain
Mae disgwyl i gannoedd o Gymry Cymraeg sy'n byw tu allan i Gymru dyrru i Gapel Jewin, Barbican yn Llundain ar gyfer Eisteddfod Ranbarthol yr Urdd i gystadleuwyr tu allan i Gymru ddydd Sadwrn.
Bydd yn cael ei hagor yn swyddogol gan y newyddiadurwr Huw Edwards.
Cynhaliwyd yr Eisteddfod ranbarthol hon am y tro cyntaf yn 2006, gan fod mwy a mwy o aelodau tu allan i Gymru eisiau cystadlu.
Cychwynnodd fel Eisteddfod eithaf bach yng Nghaerdydd, gyda weithiau dim ond tua 6 yn cystadlu, ond llynedd fe'i cynhaliwyd yn Llundain am y tro cyntaf a gwelwyd dros 200 o blant a phobl ifanc ar y llwyfan.
'Digwyddiad traddodiadol'Bydd yr Eisteddfod eleni yn Llundain yn rhan o benwythnos o ddathliadau Gŵyl Dewi ac yn gyfle i amlygu diwylliant Cymru.
Dywedodd Leah Owen-Griffiths, trefnydd yr Eisteddfod yn Llundain: "Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn ddigwyddiad pwysig yn y calendr Cymreig, yn denu bron i 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
"Gyda nifer gynyddol o Gymry yn setlo tu allan i Gymru, gyda thua 300,000 yn Llundain, roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig rhoi cyfle i blant gystadlu yn yr Eisteddfod.
"Yn y gorffennol, rydym wedi cael cystadleuwyr o Singapore, Bahrain a myfyrwyr sydd yn astudio dramor sydd yn teithio i Lundain yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod
"Eleni bydd yr Eisteddfod yn rhan o benwythnos llawn digwyddiadau i ddathlu Gŵyl Ddewi ac yn amlygu'r diwylliant Cymreig yn Llundain".
Dywedodd Julie Sullivan, Pennaeth Ysgol Gymraeg Llundain: "Mae Eisteddfod Llundain yn gyfle gwych i blant Ysgol Gymraeg Llundain gystadlu yn y digwyddiad traddodiadol hwn sydd yn dathlu'r iaith Gymraeg.
"Yng Nghymru, mae gan bob plentyn gyfle i gystadlu ac mae'n anhygoel gweld sut mae plant ein hysgol yn datblygu eu hyder, iaith a sgiliau perfformio o ganlyniad.
Bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal eleni yn ardal Sir Benfro rhwng 27 Mai 27 a Mehefin 1.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~34~RS~)

Jill Evans ar frig y rhestr
Elusen: 'Mwy o ddigwyddiadau'
Sir yn croesawu'r Urdd
Dosbarth ei hun
Dau app Cymraeg
Siwrne olaf