Achub dau o lethrau'r Wyddfa

Fe gafodd dau o bobol eu hachub gan hofrennydd yr Awyrlu ar ôl mynd i drafferthion ar yr Wyddfa nos Fercher.

Fe ddaeth yr hofrennydd o hyd i'r dyn a'i fab, sydd yn ei arddegau, ar ôl gweld olion traed yn yr eira ger Crib Goch sydd 2,200 troedfedd o uchder.

Cafodd y ddau eu cludo gan yr hofrennydd i Lanberis.

Ni chafodd y ddau eu hanafu.

Dywedodd achubwyr nad oedd y ddau wedi gwisgo'n addas ar gyfer y tywydd oer.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.