Achub dyn o dân mewn fflat

Cafodd dyn ei achub o dân mewn fflat yng Ngwynedd yn oriau man fore Iau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r fflat ym Mhentre Uchaf, Dyffryn Ardudwy, am 1:00am.

Doedd y dyn ddim wedi ei anafu, ac fe gafodd brofion yn y fan a'r lle gan barafeddygon.

Credir bod y tân wedi dechrau pan gafodd sosban ei gadael ar y popty.

Bu criwiau o ddiffoddwyr o Harlech a'r Bermo ar y safle am gyfnod.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.