Dal tri wnaeth ddianc o garchar

(O'r chwith) Stephen Booth, Jason Morris, John Phillips Cafwyd Stephen Booth, Jason Morris a John Phillips yn euog o ddwyn

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi dal tri dyn oedd wedi dianc o garchar agored yn Sir Fynwy.

Roedd Stephen Booth, 34, Jason Morris, 38, a John Phillips, 28 wedi mynd ar goll o garchar Prescoed nos Fawrth.

Roedd y tri wedi eu cael yn euog o droseddau gwahanol o ddwyn.

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi dod o hyd i'r tri a'u bod yn y ddalfa tan iddyn nhw gael eu dychwelyd i'r carchar.

Credir eu bod wedi eu canfod mewn eiddo yn ardal Casnewydd nos Fercher.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.