Gwerthiant papurau newydd Cymru yn parhau i ostwng

Y Western Mail a'r Daily Post Mae gwerthiant papurau newydd Cymru wedi gostwng

Straeon Perthnasol

Mae gwerthiant papurau newydd yng Nghymru yn parhau i ostwng, yn ôl y ffigyrau diweddara.

Yn ôl ABC, y sefydliad sy'n cofnodi gwerthiant, fe wnaeth bob un o bapurau dyddiol Cymru weld eu gwerthiant yn gostwng yn ail hanner 2012.

Y South Wales Evening Post yn y de orllewin sy'n parhau â'r gwerthiant uchaf, sef cyfartaledd o 34,873.

Ond roedd hynny yn ostyngiad o 9.1% o'i gymharu â Gorffennaf-Rhagfyr 2011.

Fe welodd y rhan fwyaf o bapurau wythnosol yng Nghymru hefyd ostyngiad yn nifer y darllenwyr

Ar y llaw arall bu cynnydd yn nifer y bobl fu'n darllen gwefannau'r papurau newydd.

PAPUR NEWYDD GWERTHIANT (GOSTYNGIAD%)

Gwerthiant Gorffennaf-Rhagfyr 2012: Ffynhonnell - Adroddiad ABC

South Wales Evening Post

34,873 (9.1%)

Daily Post

29,577 (3.4%)

South Wales Echo

28,895 (6.8%)

Western Mail

23,035 (11.1%)

South Wales Argus

20,589 (7.1%)

Leader

14,545 (6.1%)

Bu cynnydd yn nifer defnyddwyr gwefannau'r Daily Post, yr Evening Post a'r Western Mail.

Bu cynnydd o 53.% yn nefnyddwyr thisissouthwales (Evening Post), o'i gymharu â'r llynedd.

Mae 18,640 ar gyfartaledd yn ymweld â'r we yn ddyddiol a 380,128 yn fisol.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.