Arolwg: Cefnogaeth sefydlog i ddatganoli trethi
Awgrym fod dau o bob tri o blaid pwerau trethi
Mae arolwg barn yn awgrymu fod y gefnogaeth i fwy o ddatganoli grym i'r Cynulliad Cenedlaethol wedi aros yn ei unfan ers y llynedd.
Gwnaed yr arolwg blynyddol ar gyfer Gŵyl Ddewi ar ran BBC Cymru gan ICM.
Mae'r ganran sy'n cefnogi grymoedd dros drethi hefyd wedi aros yr un fath, dau allan o bob tri.
Yn ôl yr arolwg roedd 36% am i'r Cynulliad gael mwy o rymoedd - yr un nifer ag yn 2012.
Roedd 28% o'r farn fod y grymoedd presennol yn ddigonol, o'i gymharu â 29% y llynedd.
Dywedodd 30% na ddylai'r Cynulliad fod ag unrhyw reolaeth o drethi, roedd hynny yn cymharu â 29% y llynedd.
Daw'r arolwg barn ar ôl i Gomisiwn Silk gyhoeddi ei adroddiad cyntaf fis Tachwedd diwethaf.
Cefnogaeth i'r arweinwyrRoedd y Comisiwn o'r farn y dylid cynnal refferendwm ar y cwestiwn a ddylai Llywodraeth Cymru gael y pwerau i amrywio trethi.
Bu cynnydd yng nghanran y bobl oedd am i Gymru fod yn annibynnol, o 7% y llynedd i 9% eleni.
Gwelwyd gostyngiad yn y rhai oedd am gael gwared ar y Cynulliad, o 22% y llynedd i 20% eleni.
O ran gwleidyddion Carwyn Jones, wnaeth dderbyn y ffigyrau mwyaf calonogol.
Roedd 55% yn credu ei fod yn gwneud gwaith da, 21% yn dweud nad oedd yn gwneud gwaith da, a 24% ddim yn gwybod.
O ran arweinwyr gwleidyddol yng Nghymru, Leanne Wood oedd nesaf. Roedd 37% yn credu ei bod yn gwneud gwaith da, 23% o'r farn nad oedd yn gwneud gwaith da a 40% ddim yn gwybod.
Pan holwyd am David Cameron, dywedodd 32% ei fod yn gwneud gwaith da, tra bod 54% o'r farn nad oedd yn gwneud gwaith da. Doedd 14% ddim yn gwybod.
Arolwg: Arweinwyr y pleidiau |
||||
|---|---|---|---|---|
| Arweinydd | Gwaith da | Ddim yn dda | Dim yn gwybod | Sêl bendith |
|
Fynhonnell: Arolwg ICM |
||||
David Cameron, Ceidwadwr
|
32% |
54% |
14% |
-22 |
Ed Miliband, Llafur
|
31% |
50% |
19% |
-19 |
Nick Clegg, Democratiaid Rhyddfrydol
|
21% |
63% |
15% |
-42 |
Carwyn Jones, Prif Weinidog, Llafur
|
55% |
21% |
24% |
+34 |
Andrew RT Davies, Ceidwadwyr Cymru
|
26% |
31% |
42% |
-5 |
Kirsty Williams, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
|
29% |
27% |
44% |
+2 |
Leanne Wood, Plaid Cymru
|
37% |
23% |
40% |
+14 |
Fe wnaeth ICM gysytllu a 1,000 o oedolion yng Nghymru ar y ffon rhwng Chwefror 20 a 25.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~58~RS~)

David Cameron, Ceidwadwr
Ed Miliband, Llafur
Nick Clegg, Democratiaid Rhyddfrydol
Carwyn Jones, Prif Weinidog, Llafur
Andrew RT Davies, Ceidwadwyr Cymru
Kirsty Williams, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Leanne Wood, Plaid Cymru
AS 'yn gwadu pob honiad'
Hafan y Llewod ar bbc.co.uk/cymru
'Chwalu'r myth'
Ar flaen eich bysedd
Hyrwyddo Maes B