Amseroedd ymateb y Gwasanaeth Ambiwlans yn gwella

Ambiwlans Dyw'r Gwasanaeth Ambiwlans heb gyrraedd targed Llyowdraeth Cymru o 65%.

Straeon Perthnasol

Mae amseroedd ymateb y Gwasanaeth Ambiwlans wedi gwella am y tro cyntaf ers mis Awst, yn ôl yr ystadegau mwyaf diweddar.

Ym mis Ionawr fe wnaeth y gwasanaeth ymateb i 59.6% o'r galwadau mwyaf brys (sef categori A) o fewn wyth munud.

Roedd hynny'n cymharu â 56.1% yn Rhagfyr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 65% ar gyfer y gwasanaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth fod eira wedi rhoi mwy o bwysau ar y gwasanaeth yn ystod mis Ionawr.

Yn ôl y ffigyrau roedd yna 14,600 (gostyngiad o 5.9%) yn llai o alwadau categori A fis diwethaf.

Dywed y gwrthbleidiau nad yw'r ffigyrau yn dal yn ddigon da - a hynny o ystyried fod y gwasanaeth wedi methu a chwrdd â tharged y llywodraeth am gyfnod o wyth mis.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.