Cyngor Merthyr Tudful i golli cyfrifoldeb dros addysg

Arholiadau Dywedodd Mr Andrews ei fod yn ffafrio gwasanaeth addysg ar y cyd â Chyngor Rhondda Cynon Taf

Straeon Perthnasol

Mae Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi na fydd Cyngor Merthyr Tudful yn gyfrifol am addysg yn y dyfodol.

Dywedodd Mr Andrews ei fod yn ffafrio gwasanaeth addysg ar y cyd â Chyngor Rhondda Cynon Taf.

Mae trafodaethau wedi dechrau'n barod.

Posibiliadau eraill, meddai, fyddai penodi comisiynwyr i redeg y gwasanaeth, neu ddefnyddio corff fel "ymddiriedolaeth nid-er-elw neu dîm adfer o'r sector preifat".

Yn gynharach yn y mis dywedodd Estyn, y corff sy'n arolygu addysg yng Nghymru, y dylai gwasanaethau addysg dau awdurdod lleol - Sir Fynwy a Merthyr - fod mewn mesurau arbennig.

Yn ôl Estyn, mi ddylai'r safonau ym Merthyr fod yn uwch.

Mae'r Gweinidog Addysg wedi dweud bod yr adroddiad ar addysg Merthyr yn "un o'r rhai gwaethaf i mi eu darllen".

"Mae'r cyfrifoldeb am wasanaethau yn yr awdurdodau sy'n methu yn disgyn ar ysgwyddau'r rhai sy'n rheoli yno, ond fe fyddaf yn gweithredu pan mae cynghorau yn methu" meddai.

Dywedodd nad oedd ganddo "unrhyw hyder y byddai Merthyr yn datrys y problemau hyn ar eu pennau eu hunain, hyd yn oed gyda chefnogaeth".

Wrth gyfeirio at y sefyllfa yn Sir Fynwy, dywedodd fod y cyngor yno wedi gweithredu trwy sefydlu tîm newydd o uwchreolwyr a'u bod wedi penodi cyfarwyddwr addysg newydd fydd yn dechrau ar ei waith ym mis Mai.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.