Codi ffioedd mewn tri maes parcio yng Ngheredigion
Mae gan Faes Parcio'r Cwmins yn Llanbed tua 90 lle parcio
Mae siambrau masnach yng Ngheredigion wedi datgan eu siom ynghylch cynllun i godi tâl mewn tri maes parcio yn y sir.
Cafodd cynllun i gyflwyno ffi mewn tri maes parcio a fu am ddim yn y gorffennol ei gymeradwyo gan Gabinet Cyngor Ceredigion ddydd Mawrth.
Yn ôl y cyngor y nod yw codi £65,000 yn ychwanegol bob blwyddyn am godi ffioedd ym maes parcio'r Cwmins, Llanbedr Pont Steffan, maes parcio Ffordd y Gogledd, Aberystwyth a Maes Parcio Gloster Row, Aberteifi.
Penderfynodd y cabinet hefyd gymeradwyo'r cais i ffioedd meysydd parcio'r sir barhau fel ag yr oedden nhw am y flwyddyn ariannol 2013/14.
'Siomedig'Bydd yr unig newidiadau yn cynnwys cysoni'r hyn a godir mewn trefi o fewn yr un band.
Bandiau ffioedd parcio
- 1: Aberystwyth
- 2: Aberteifi, Aberaeron, Cei Newydd ( haf yn unig), Llanbed
- 3: Llandysul, Tregaron
Dywedodd cadeiryddion Siambrau Masnach Aberystwyth ac Aberteifi eu bod yn siomedig gyda'r argymhellion ond gallai'r cynllun fod o fudd i Lanbed yn ôl cadeirydd siambr fasnach y dref honno.
Dywedodd cadeirydd Siambr Fasnach Aberystwyth, Chris Mackenzie-Grieve ei fod yn siomedig bod yr awdurdod lleol am ehangu eu rhwydwaith o feysydd parcio lle mae pobl yn gorfod talu.
"Yn ein barn ni mae unrhyw ffi sy'n mynd o goffrau'r cyngor sir yn golygu llai o arian fydd yn cael ei wario yn siopa'r dref," meddai.
"Er hynny rwy'n croesawu'r argymhelliad i beidio codi ffioedd parcio y rhan fwyaf o feysydd parcio'r sir."
£65,000Dywedodd cadeirydd Siambr Fasnach Aberteifi, Tim Phillips: "Fy marn i yw bod unrhyw ffi parcio yn golygu ei fod yn fwy tebygol y bydd llai o bobl yn ymweld â'r dref i siopa."
Ond yn ôl Gwynfor Lewis, cadeirydd Siambr Fasnach Llanbed, gallai codi ffioedd ym maes parcio'r Cwmins fod o fudd i'r dref.
"Gallai codi ffioedd ryddhau llefydd parcio yn ystod y dydd oherwydd ar hyn o bryd mae pobl yn parcio yno drwy'r dydd sy'n golygu nad oes lle i siopwyr barcio yn y Cwmins,"
"Ond fe fydd yn rhaid i'r cyngor sir gael rhyw fath o gytundeb gyda'r bobl heb lefydd parcio y tu allan i'w tai sy'n byw yn agos i'r Cwmins."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~36~RS~)

Addysg: 'llai o awdurdodau lleol'
Datblygiad mewn triniaeth canser
Hafan y Llewod ar bbc.co.uk/cymru
Hyrwyddo Maes B
'Enillydd teilwng'
Ymgynghori?