Oedi cyn gwerthu tocynnau Eisteddfod Genedlaethol 2013

Is-Gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Ray Bartley a John Glyn Jones, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Sir Ddinbych 2013 gyda Chwpan yr Eidalwyr, gyflwynwyd i'r sir gan yr Eisteddfod dros y penwythnos. Is-Gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Ray Bartley a John Glyn Jones, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Sir Ddinbych 2013

Fe fydd tocynnau ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn mynd ar werth yn hwyrach na'r arfer eleni.

Fel arfer mae'r ymgyrch yn cael ei lansio ar Fawrth 1, ond fydd y tocynnau ddim yn cael eu rhyddhau tan Ebrill 24 y tro yma.

Bydd y lansiad, felly, yn cyd-fynd â'r dathliadau '100 diwrnod i fynd' cyn cychwyn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau.

Cynhelir y Brifwyl ar dir Fferm Kilford ar gyrion tref Dinbych rhwng Awst 2 a 10.

"Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld arferion prynu ein hymwelwyr yn newid llawer," meddai'r Prif Weithredwr, Elfed Roberts.

"Erbyn hyn mae'r rhan fwyaf o'r tocynnau'n cael eu gwerthu ar-lein, ac mae hyn yn rhoi mwy o ryddid i'n cwsmeriaid.

"Rydym hefyd wedi gweld pobl yn ei gadael yn hwyrach cyn mynd ati i brynu eu tocynnau, ac felly rydym wedi penderfynu cyfuno'r dathliadau 100 diwrnod i fynd gyda lansiad ein hymgyrch docynnau cyngherddau a Maes."

Bydd llyfryn gwybodaeth y Brifwyl ar gael yn ystod mis Ebrill, fydd yn cynnwys manylion am weithgareddau'r Eisteddfod, yn ogystal â nifer o gynigion tocynnau arbennig a fydd ar gael tan Fehefin 30.

Bydd tocynnau ar gael ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol, neu drwy ffonio'r llinell docynnau ar 0845 4090 800 o Ebrill 24 ymlaen.

Mwy Am y Stori Hon

SIR DDINBYCH 2013

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.