Arestio dyn wedi ymosodiad ar yr actor Rhys ap William
Cafodd Rhys ap William - oedd yn chwarae rhan Cai yn Pobol y Cwm - anafiadau yn oriau mân bore Sul
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i ymosodiad ar actor yng Nghaerdydd wedi arestio dyn yn y ddinas ar amheuaeth o ymosod.
Cafodd y dyn 24 oed o ardal Trelái ei arestio ar ôl apêl yn y wasg ac ar y cyfryngau wedi i Rhys ap William gael ei anafu.
Cafodd yr actor 37 oed anafiadau tua 0.15am bore Sul Chwefror 24 y tu allan i dafarn yr Admiral Napier ar Heol Ddwyreiniol Y Bont-Faen.
Mae'r heddlu wedi diolch i bawb am wybodaeth.
Mae'r actor yn gwella o anafiadau difrifol yn yr ysbyty.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth all fod o gymorth i ymchwiliad yr heddlu fe ddylen nhw ffonio'r orsaf yn Y Tyllgoed ar 029 2057 1545 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~34~RS~)

AS 'yn gwadu pob honiad'
Hafan y Llewod ar bbc.co.uk/cymru
Hyrwyddo Maes B
'Enillydd teilwng'
Ymgynghori?