Cricedwr wedi cymryd alcohol a chyffuriau cyn marw
Roedd dawn arbennig gan Tom Maynard yn ôl arbenigwyr
Mae rheithgor cwest i farwolaeth y cricedwr Tom Maynard wedi cofnodi rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol.
Cafodd corff y chwaraewr 23 oed ei ddarganfod ar reilffordd yn Llundain ac roedd un o'r trenau tanddaearol wedi ei daro ger gorsaf Wimbledon Park ar Orffennaf 18 y llynedd.
Clywodd y cwest yn Llys Crwner Westminster ddydd Mawrth fod Maynard, a fagwyd yng Nghaerdydd, yn ceisio dianc rhag yr heddlu ar ôl gyrru tra dan ddylanwad alcohol a chyffuriau adeg y digwyddiad.
Bu farw o'i anafiadau ar ôl cael ei daro gan y trên.
Yn gynharach yn y noson roedd wedi cael ei holi gan yr heddlu wedi adroddiadau fod ei gar Mercedes du yn cael ei yrru'n wyllt.
Ond dihangodd Maynard o'r car, gan adael y goriad yn y cerbyd.
Lefel alcoholDangosodd archwiliad post mortem fod yna bedair gwaith mwy o alcohol yn ei waed na sy'n gyfreithlon i yrru, a'i fod hefyd wedi cymryd cocên ac ecstasi mewn ffurf MDMA ar ôl bod allan gyda dau o'i ffrindiau yn Wandsworth, yn ne Llundain.
Clywodd y cwest fod profion ar samplau gwallt yn awgrymu y gallai Maynard fod wedi bod yn cymryd cyffuriau'n rheolaidd hyd at dri mis a hanner cyn ei farwolaeth.
Mae teulu Tom Maynard wedi rhyddhau datganiad trwy Gymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol, yn dweud: "Nid yw canlyniadau'r cwest yn diffinio ein mab. Y ffaith fod cymaint o bobl yn meddwl y byd ohono sy'n ei ddiffinio fel person.
"Yr unig rai fyddai'n barnu Tom ar gasgliadau'r cwest yw'r rhai sydd ddim yn ei adnabod. Fe wnaeth ddewisiadau'r noson honno a gostiodd ei fywyd ond mae ei deulu a'i ffrindiau yn ei garu a byddwn yn gweld ei eisiau'n ofnadwy am byth.
"Roedd yn berson arbennig iawn ac mae ei farwolaeth yn gadael bwlch enfawr yn ein bywydau."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~08~RS~)

Ieuan Wyn Jones i sefyll lawr fel AC
'Enillydd teilwng' Gwobr Goffa T Llew
Hafan y Llewod ar bbc.co.uk/cymru
Dathlu Canwr y Byd yn 30
Lansio Pobl Caerdydd