Ymchwiliad am anafiadau i ddyn

Mae dyn 37 oed yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol wedi iddo gael ei ganfod y tu allan i dafarn yng Nghaerdydd yn oriau man fore Sul.

Mae adroddiadau bod y dyn wedi diodde' ymosodiad.

Dywedodd Heddlu'r De ei fod wedi cael ei ganfod gydag anaf i'w ben y tu allan i'r Admiral Napier yn ardal Treganna o'r ddinas.

Cafodd plismyn eu galw i'r safle am ugain munud wedi hanner nos fore Sul.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod yn ymchwilio i adroddiadau o ymosodiad.

Maen nhw'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i ffonio'r heddlu ar 101, neu i ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.