April Jones: Gohirio achos Mark Bridger
Diflannodd April Jones ar Hydref 1 2012
Mae'r barnwr yn achos y dyn sydd wedi ei gyhuddo o gipio a llofruddio'r ferch bum mlwydd oed April Jones wedi gohirio'r achos.
Mae Mark Bridger yn gwadu cipio a llofruddio April Jones
Roedd disgwyl i'r achos yn erbyn Mark Bridger, 47 oed, gychwyn ddydd Llun yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.
Ond fe wnaeth y barnwr Mr Ustus Griffith-Williams ohirio'r achos ar gais yr amddiffyniad.
Mae Mr Bridger yn gwadu'r cyhuddiad o gipio a llofruddio'r ferch o Fachynlleth.
Mae o hefyd yn gwadu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder wedi diflaniad April ym mis Hydref y llynedd.
Fe fydd yr achos yn cychwyn ar Ebrill 29.
Mae ymgais Heddlu Dyfed Powys i ddod o hyd iddi yn parhau.
Wedi iddi ddiflannu, fe ddechreuodd un o'r ymgyrchoedd chwilio mwyaf yn hanes yr heddlu yn y DU.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~53~RS~)

Jill Evans ar frig y rhestr
Elusen: 'Mwy o ddigwyddiadau'
Sir yn croesawu'r Urdd
Dosbarth ei hun
Dau app Cymraeg
Siwrne olaf