Cefnogwyr yr Elyrch areu ffordd i Wembley

Mae Ben Davies yn paratoi am gêm fwyaf ei yrfa hyd yn hyn

Straeon Perthnasol

Mae degau o filoedd o gefnogwyr tîm pêl-droed Abertawe ar eu ffordd i Wembley am un o'r gemau mwyaf yn hanes y clwb.

Cafodd cyfan y clwb o 33,000 o docynnau ar gyfer rownd derfynol Cwpan Capital One eu gwerthu wythnosau yn ôl ar gyfer yr ornest yn erbyn Bradford City.

Bellach mae pentwr o fysus wedi gadael Stadiwm Liberty yn y gobaith o weld Abertawe'n cipio un o brif dlysau pêl-droed Lloegr am y tro cyntaf yn eu hanes.

Abertawe yw'r ffefrynnau gan fod Bradford yn chwarae yn ail adran y gynghrair, ond mae'r tîm o Swydd Efrog wedi curo tri tîm arall o'r Uwchgynghrair ar eu taith nhw i Wembley.

Byddai buddugoliaeth i Abertawe yn eu gweld yn chwarae yn Ewrop y tymor nesaf, gan gynrychioli Lloegr am y tro cyntaf os fyddan nhw'n llwyddo.

Dywedodd John Freeman, sydd wedi cefnogi'r Elyrch ers 48 o flynyddoedd: "Mae dilyn Abertawe wedi bod fel reid yn y ffair erioed, ond mae'r cyfan bellach werth y drafferth.

"Mae diwrnod yn Wembley yn hwb anferth i bawb - fe allen ni fod wedi mynd â 50,000 o gefnogwyr."

Gwireddu breuddwyd

I chwaraewyr fel Ben Davies, mae'r cyfan yn gwireddu breuddwyd.

Ben yw'r unig Gymro Cymraeg yng ngharfan Abertawe, ac fe ddaeth y cyfle annisgwyl iddo fod yn rhan o'r tîm cyntaf y tymor hwn yn dilyn anaf drwg Neil Taylor yn gynharach yn y tymor.

Mae Davies wedi bachu'r cyfle, gan sicrhau ei fod yn ddewsi cyntaf i'r glwb ac i'w wlad yn absenoldeb Taylor.

Fe fydd Abertawe heb wasanaeth yr amddiffynwr dylanwadol Chico Flores oherwydd anaf, ac mae'r rheolwr Michael Laudrup wedi cadarnhau mai Gerhard Tremmel fydd yn dechrau fel golwr.

Er mai Michel Vorm yw'r dewis cyntaf rhwng y pyst yn yr Uwchgynghrair, mae Tremmel wedi dechau bob gêm yng nghystadleuaeth Cwpan Capital One.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.