Apêl wedi digwyddiad amheus

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi apêl am wybodaeth yn dilyn digwyddiad amheus ddydd Iau, Chwefror 21, ger Castell-newydd Emlyn.

Dywed yr heddlu eu bod am glywed gan unrhyw un a welodd gerbyd 'pick-up' du yn ardal Beulah am 4:15pm ar y diwrnod hwnnw.

Cred yr heddlu mai math Mitsubishi oedd y cerbyd.

Maen nhw'n awyddus i greu darlun o symudiadau'r cerbyd a'r gyrrwr rhwng 4:00pm a 5:30pm, a hefyd yn awyddus i siarad gydag unrhyw un oedd yn ardal Ffordd Bryngwyn o Beulah rhwng yr amseroedd hynny.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Steve Davies: "Mae tîm o swyddogion yn ymchwilio i'r mater yma er mwyn adnabod y cerbyd oedd yn rhan o'r digwyddiad, ac mae cael cefnogaeth gan y gymuned leol yn rhan bwysig iawn o'r broses yma."

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth berthnasol i ffonio'r heddlu ar 101.

Gall pobl hefyd ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.