Yr Eidal a Chymru yn chwilio am ailfuddugoliaeth yn y bencampwriaeth

Cymru'n dathlu ar ôl cais George North yn erbyn Ffrainc Bydd Cymru'n gobeithio parhau â'r llwyddiant gafwyd yn erbyn Ffrainc wrth wynebu'r Eidal
Cymru v Yr Eidal: Stadio Olimpico Rhufain; Dydd Sadwrn, Chwefror 23, 2013 am 2.30pm.

Straeon Perthnasol

Fe fydd Cymru yn gobeithio parhau â'r llwyddiant gafwyd yn erbyn Ffrainc wrth iddyn nhw wynebu'r Eidal ddydd Sadwrn.

Dyma drydedd gêm Pencampwriaeth y Chwe Gwlad i Gymru ar ôl colli yn erbyn Iwerddon yn y gêm agoriadol.

Does 'na ddim newid i'r 15 gychwynnodd y gêm yn erbyn Ffrainc ond mae Sam Warburton ac Alun Wyn Jones yn ôl ar y fainc wedi anafiadau yn lle Aaron Shingler a Lou Reed.

Mae'r Eidal wedi symud bellach i gartre' newydd, y Stadio Olimpico.

Mae Cymru wedi chwarae yno unwaith yn y gorffennol.

Fydd Yr Eidal heb eu capten dylanwadol, Sergio Parisse, wedi iddo gael ei wahardd am 40 niwrnod am sarhau dyfarnwr yn ystod gêm clwb y penwythnos diwethaf.

Dim capten

Yn wahanol i Gymru cychwynnodd Yr Eidal y bencampwriaeth gyda buddugoliaeth gofiadwy yn erbyn Ffrainc cyn colli yn erbyn Yr Alban chwe niwrnod yn ddiweddarach.

Dim ond un gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y mae'r Eidalwyr wedi ei hennill heb Parisse yn y 10 mlynedd diwethaf (Yr Alban yn 2010).

Mae colli Parisse yn mynd i fod yn dipyn o ergyd i'r Eidalwyr sydd wedi gwneud pedwar newid i'r 15 sy'n cychwyn y gêm.

Mae peidio gwneud newidiadau i'r 15 enillodd y gêm yn erbyn Ffrainc yn "wobr i'r chwaraewyr" yn ôl hyfforddwr Cymru Rob Howley.

"Fe ddangosodd y tîm benderfyniad a dycnwch yn Ffrainc, ac fe fydd angen hynny eto yn Rhufain," meddai.

"Mae'r Eidal wedi dangos eu gallu yn y gystadleuaeth eisoes, ac rydym yn ymwybodol o'r her fydd yn ein hwynebu ddydd Sadwrn."

Petai Cymru yn ennill ddydd Sadwrn fe fyddan nhw'n creu hanes drwy ennill pedair gêm oddi cartref yn olynnol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad am y tro cyntaf.

Y tro diwethaf oedd ym Mhencampwriaeth y Pum Gwlad rhwng 1977 a 1979.

Ond mae'r Eidalwyr hefyd yn chwilio am ddarn o hanes, drwy obeithio ennill gartref am y trydydd tro yn olynnol.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.