Tri yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad

Cafodd un person ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yng Nghonwy fore Gwener.

Fe gludwyd cyfanswm o dair menyw, gan gynnwys dwy ferch yn eu harddegau, i Ysbyty Gwynedd ym Mangor wedi'r digwyddiad.

Does dim manylion am eu cyflwr wedi cael eu cyhoeddi.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Betws yn Llanrwst ychydig cyn 9:00am.

Fe gawson nhw gymorth gan y Gwasanaeth Ambiwlans i ddiogelu'r safle.

Roedd dau gar yn rhan o'r gwrthdrawiad.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.