Iechyd: Protest yn erbyn toriadau yn Llandudno
Protestwyr y tu allan i gyfarfod o'r bwrdd iechyd pan gafodd y newidiadau eu cadarnhau ym mis Ionawr
Mae protestwyr sy'n gwrthwynebu penderfyniad Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i gael gwared â llawdriniaethau'r fron yn Ysbyty Llandudno wedi cynnal gorymdaith drwy'r dref ddydd Sadwrn.
Daeth cynrychiolwyr grwpiau o drefi eraill y gogledd sy'n protestio yn erbyn toriadau'r bwrdd iechyd yn teithio i Landudno i gymryd rhan yn y brotest, ac fe ddaeth rhwng 300-400 o bobl ynghyd ar gyfer y digwyddiad.
Cafodd y brotest ei threfnu gan Grŵp Gweithredu Ysbyty Llandudno oedd am gydweithio gyda grwpiau eraill i ehangu'r brotest.
Mae nifer o wleidyddion gan gynnwys Ysgrifennydd Cymru David Jones wedi bod yn annerch y protestwyr.
Newid gwasanaethau“Start Quote
End Quote Carol Marubbi Grŵp Gweithredu Ysbyty LlandudnoFe fyddwn ni'n protestio yn erbyn y penderfyniad hwn ond rydym wedi penderfynu gwahodd grwpiau eraill fel y gallwn uno i brotestio yn erbyn holl doriadau'r bwrdd ar draws gogledd Cymru”
Honnodd Carol Marubbi, is-gadeirydd Grŵp Gweithredu Ysbyty Llandudno, fod y bwrdd iechyd wedi addo na fyddai gwasanaethau'r fron yn cael eu symud o Ysbyty Landudno.
"Ond fe wnaeth gwasanaethau'r fron ddod i ben yn yr ysbyty ryw bythefnos yn ôl heb unrhyw ymgynghoriad.
"Fe fyddwn ni'n protestio yn erbyn y penderfyniad hwn ond rydym wedi penderfynu gwahodd grwpiau eraill fel y gallwn uno i brotestio yn erbyn holl doriadau'r bwrdd ar draws gogledd Cymru."
Bydd cynrychiolwyr grwpiau protest o Flaenau Ffestiniog, Prestatyn, Y Rhyl, Llangollen, Y Fflint, Wrecsam, Rhuthun a Bae Colwyn yn cymryd rhan yn yr orymdaith ddydd Sadwrn.
AnhapusYn dilyn cyfarfod ddydd Mercher, dywedodd Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr ddydd Iau na fydden nhw'n cyfeirio cynlluniau'r bwrdd iechyd i newid gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru i'r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths.
Oherwydd penderfyniad y cyngor, mae'n edrych yn debyg y bydd nifer o ysbytai cymunedol ar draws y gogledd yn cau, ac y bydd gwasanaethau gofal dwys o fabanod newydd anedig yn symud o ogledd Cymru i Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri.
Dywedodd Mrs Marubbi ei bod yn anhapus iawn gyda'r penderfyniad hwn fyddai'n cael ei drafod ddydd Sadwrn.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Bydd newidiadau cenedlaethol i'r trefniadau ar gyfer hyfforddi meddygon iau yn effeithio ar y staff meddygol preswyl sy'n darparu gwasanaeth dros nos yn Ysbyty Llandudno.
"Yn lle bydd gwasanaeth dros nos ar gyfer cleifion meddygol yn cael ei ddarparu gan Wasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau - Gogledd Cymru.
"Ond fe fydd hyn yn cyfyngu ar ein gallu i roi gofal diogel i gleifion yn union ar ôl llawfeddygaeth, ac o ganlyniad fe fydd nifer bychan o gleifion sydd angen llawfeddygaeth y fron yn cael eu llawdriniaethau yn Ysbyty Gwynedd neu Ysbyty Glan Clwyd.
"Ni fydd hyn yn effeithio ar wasanaethau eraill y fron yn Ysbyty Llandudno, gan gynnwys clinigau, profion diagnostig a Bron Brawf Cymru.
"Mae Ysbyty Llandudno yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn narpariaeth gwasanaeth iechyd yng Ngogledd Cymru ar gyfer y boblogaeth leol a'r ardal ehangach, a bydd nifer o ddatblygiadau sylweddol yn digwydd ar y safle.
"Rydym yn bwriadu defnyddio ward Maesdu fel ward achosion dydd, ac o ganlyniad bydd mwy o lawdriniaethau yn yr ysbyty.
"Rydym hefyd yn gwneud gwelliannau i'r fferyllfa. Mae'r gwaith wedi cychwyn i ddarparu'r Uned Mân Anafiadau yn Llandudno a bydd datblygiadau i'n gwasanaeth Rhiwmatoleg ar y safle yn creu cyfleusterau ar gyfer achosion dydd i'r boblogaeth leol a chanolfan addysg yn benodol i gleifion, y cyntaf o'i bath yng Nghymru."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~45~RS~)

Ynys Môn: Comisiynwyr yn gadael
Cyhoeddi enw'r milwr gafodd ei ladd
Sioe myfyrwyr yn delio â dementia
Llwyfan i dalent y sir
Guggenheim i Gymru?
Bradley'n arwain y daith