Apêl wedi marwolaeth 'amheus' dynes 65 oed yn Wrecsam

Mae swyddogion wedi bod yn archwilio cartref Glynis Eileen Solmaz yn ystod y dydd Mae swyddogion wedi bod yn archwilio cartref Glynis Eileen Solmaz yn ystod y dydd

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl marwolaeth amheus dynes yn Wrecsam.

Cafodd swyddogion eu galw i'r tŷ ym Mryn Hafod am 10.02am ddydd Mercher.

Cafwyd hyd i gorff Glynis Eileen Solmaz, 65 oed, yno.

Roedd Ms Solmaz yn byw yn y tŷ, gyferbyn â chyffordd parc diwydiannol Queensway ym Mharc Caia, ar ben ei hun.

Roedd ganddi ddau gi Rottweiler y byddai'n mynd a nhw am dro yn gyson yn yr ardal.

Archwiliad post mortem

Byddai hefyd yn ymweld yn gyson a'r siop leol a thafarndai yn Wrecsam.

Dydi achos ei marwolaeth ddim yn glir ac mae disgwyl i batholegydd y Swyddfa Gartref gynnal archwiliad post mortem.

"Rydym yn trin marwolaeth y wraig fel un amheus ar hyn o bryd ond dydi achos ei marwolaeth ddim yn glir," meddai'r Ditectif Arolygydd Iestyn Davies.

"Rydym yn awyddus i siarad gydag unrhyw un allai fod wedi gweld Ms Solmaz unrhyw bryd yn ystod y penwythnos hyd at fore Mercher.

"Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylen nhw gysylltu gyda'r tîm yn Wrecsam drwy ffonio 101 a nodi'r rhif achos P026849."

Mwy Am y Stori Hon

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.