Cwmni'n tynnu 'nôl o gynllun £800m

Cans Bydd y llosgydd yn delio gyda gwastraff o bum cyngor ar draws y gogledd

Straeon Perthnasol

Mae un o'r ddau gwmni oedd ar restr fer i gael yr hawl i godi a gweithredu llosgydd gwastraff ar draws gogledd Cymru wedi tynnu 'nôl.

Mae consortiwm o bum cyngor yn bwriadu codi'r llosgydd ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint.

Bydd y cytundeb 25 mlynedd yn werth £800 miliwn, ac fe fydd yn cael ei roi i'r cwmni buddugol dros y misoedd nesaf.

Ond bellach mae cwmni rheoli gwastraff Sita UK wedi tynnu eu cais yn ôl, gan adael Wheelabrator Technologies Incorporated fel yr unig gwmni yn y ras.

'Cyfleoedd eraill'

Mewn datganiad dywedodd prif weithredwr Sita UK, David Palmer-Jones: "Ar ôl ystyried yn ofalus, rydym wedi penderfynnu tynnu nôl o'r broses dendro ar gyfer gogledd Cymru.

"Y prif reswm yw, yn dilyn adolygiad yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae'r cynllun hwn yn llai pwysig i ni na rhai cyfleoedd eraill sydd gan y cwmni.

"Fodd bynnag, hoffwn ddymuno pob dymuniad da i'r bartneriaeth i'r dyfodol."

Fe fydd cynrychiolwyr o'r pum awdurdod lleol sy'n rhan o'r cynllun yn trafod sefyllfa Sita mewn cyfarfod o Bwyllgor Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru yn ddiweddarach ddydd Mercher.

Mwy o drafod

Dywedodd llefarydd ar ran Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru: "Mae'r broses tair blynedd ar fin cyrraedd diwedd y cyfnod trafod cystadleuol.

"Y bwriad oedd dewis rhwng Sita UK a Wheelabrator - sef y ddau gwmni oedd wedi cyrraedd rownd derfynol y broses - dros yr haf.

"Roedd y ddau gwmni wedi cyflwyno ceisiadau cystadleuol dros ben gydag atebion technolegol da a phrisiau cystadleuol.

"Bydd y trafodaethau nawr yn parhau gyda Wheelabrator yn unig cyn penderfynu'n derfynol a ddylid eu penodi fel yr ymgeiswyr dewisol."

Mae'r penderfyniad i leoli'r llosgydd newydd yn agos i hen safle melin bapur Shotton wedi cael ei feirniadu gan gymunedau ar ddwy ochr aber Afon Dyfrdwy.

Mae disgwyl i'r llosgydd fod yn weithredol erbyn 2017, ac fe fydd Llywodraeth Cymru yn darparu £142 miliwn tuag at y cynllun.

Bydd y llosgydd yn delio gyda thua 150,000 tunnell o wastraff bob blwyddyn, gan gynnwys gwastraff o domenni sbwriel ar Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Gwynedd.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.