120 o swyddi yn y fantol
Mae ansicrwydd am ddyfodol 120 o swyddi mewn ffatri ffenestri plastig Cambrian Windows yn Sir Benfro.
Mae cwmni UK Window Group yn bwriadu cau eu safle 110,000 troedfedd sgwâr yn Noc Penfro gan fod llai o alw am eu cynnyrch.
Mae cyfnod o ymgynghori 90 diwrnod wedi dechrau.
Ar wefan Cambrian Windows, mae hanes cwmni sydd wedi tyfu'n aruthrol ers ei sefydlu ym 1988 gyda ffatri fawr gymharol newydd a'r gallu i gynhyrchu 10,000 o fframiau ffenestri a drysau uPVC bob wythnos.
Maen nhw'n honni bod y trydydd cyflogwr mwya' yn Sir Benfro.
Ond yn ôl llefarydd ar ran UK Window Group, mae'r galw am ffenestri plastig yn y DU wedi haneru er 2007.
Fe wnaeth yr Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Simon Thomas o Blaid Cymru, ddatgan ei siom o glywed y newyddion, gan sôn am yr "...ergyd i economi eitha' bregus y gorllewin".
Mae Mr Thomas wedi gofyn i gael cyfeirio cwestiwn brys yn y Siambr ddydd Mercher ynglŷn â'r sefyllfa at y Gweinidog Busnes Edwina Hart.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~19~RS~)

Pryder am gost gwasanaethau cymdeithasol
Awyren yn syrthio gan anafu tri
Golwg gyntaf ar gadair a choron
Enillwyr cystadlaethau celf Yr Urdd
Beth yw'r ots am ramadeg y Gymraeg?
Mwy'n cymryd rhan mewn chwaraeon i'r anabl