Rhybudd am dabledi ecstasi

Tabledi ecstasi Dywed arbenigwyr fod y cyffur wedi achosi ymateb difrifol ymysg rhai.

Straeon Perthnasol

Mae meddygon wedi ymuno â'r heddlu i rybuddio am beryglon cyffuriau anghyfreithlon wedi i ddau berson gael triniaeth yn yr ysbyty.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod y tabledi ecstasi "pink love" yn cael eu cymryd gan bobl ar Ynys Môn.

Dywed arbenigwyr fod y cyffur wedi achosi ymateb difrifol ymysg rhai.

Cafodd rhybudd tebyg ei gyhoeddi yn dilyn marwolaeth dyn 19 oed o Langefni yn ddiweddar - credir ei fod wedi cymryd math arall o ecstasi, sef tabledi "green apples".

'Risg sylweddol'

Dywedodd Dr Linda Dykes, ymgynghorydd mewn meddygaeth frys yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor: "Yn yr wythnosau diweddar, rydym wedi gweld nifer o bobl yn dod i mewn i'r ysbyty fel achosion brys wedi i bobl gymryd cyffuriau.

"Mae rhai o'r bobl wedi diodde' ymateb difrifol iawn i'r cyffuriau, ac mae un person yn anffodus wedi marw."

Ychwanegodd Dr Dykes fod "risg sylweddol" wrth gamddefnyddio unrhyw gyffur, yn enwedig os yw'r cyffuriau wedi eu prynu ar y stryd neu o ffynonellau amheus.

"Nid yw'r defnyddwyr yn gwybod yn union beth y maen nhw'n ei gymryd, beth yw'r cryfder neu os yw'r cyffur wedi ei heintio.

"Bob tro y byddwch yn cymryd cyffur ar y stryd, rydych yn cymryd siawns gyda'ch iechyd ac yn wir eich bywyd."

Gwyliadwrus

Ychwanegodd y Prif Arolygydd dros dro Simon Barrasford o Heddlu'r Gogledd fod llawer o bobl yn cymryd risg beryglus.

"Rwyf am bwysleisio y gall canlyniadau cymryd y tabledi yma fod yn angheuol," meddai.

"Os ydych wedi prynu'r cyffuriau yma peidiwch â'u cymryd nhw da chi - rwy'n gofyn i chi eu rhoi i'r heddlu fel y gallan nhw gael eu dinistrio yn ddiogel.

"Rwy'n gofyn hefyd i rieni gyda phlant yn eu harddegau i fod yn wyliadwrus ac i siarad gyda'u plant am beryglon cymryd y cyffuriau yma."

Daeth y rhybudd cyntaf yn dilyn marwolaeth Thomas Jones, 19 oed o Langefni, wedi iddi ymddangos iddo gymryd y cyffur "green apples".

Dywedodd swyddogion y gallai fod cysylltiad rhwng ei farwolaeth â digwyddiad arall lle bu dyn o Fangor yn ddifrifol wael.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.