Cyn blismon wedi marw ar wyliau

Pencadlys Heddlu'r Gogledd Roedd Aled Roberts yn gweithio fel aelod o staff sifil Heddlu'r Gogledd

Mae cyfeillion i gyn blismon a fu farw tra ar wyliau yn Barbados wedi cael clywed fod damwain wedi digwydd pan oedd yn nofio.

Mae marwolaeth Aled Roberts wedi bod yn syndod enfawr i gyn gydweithwyr yng ngogledd Cymru.

Yn ôl un adroddiad fe gafodd Mr Roberts, o Benmaenmawr, ei daro gan don anferth a bu farw er gwaethaf ymdrechion gan gyfeillion i'w achub, ond nid yw union amgylchiadau'r farwolaeth wedi cael eu cadarnhau.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Gallwn gadarnhau bod dinesydd o Brydain wedi marw yn Barbados ar Chwefror 11.

"Rydym yn darparu cefnogaeth gonsylaidd i'w deulu yn y cyfnod anodd yma."

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Cawsom wybod am farwolaeth Aled Roberts tra ar wyliau yn Barbados.

"Roedd Aled - cyn sarjant gyda Heddlu'r Gogledd, yn cael ei gyflogi gan y llu fel clerc eiddo.

"Rydym wedi cysylltu gyda theulu Aled ac wedi mynegi ein cydymdeimlad dwysaf. Ni fyddai'n briodol i ni wneud sylw pellach ar hyn o bryd."

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.