Iechyd: Grŵp yn cychwyn her gyfreithiol

Gorymdaith ym Mlaenau Ffestiniog Gorymdeithiodd cannoedd o bobl drwy Flaenau Ffestiniog ddydd Sadwrn i wrthwynebu'r cynlluniau

Straeon Perthnasol

Mae grŵp ymgyrchu newydd yn bwriadu cychwyn her gyfreithiol i gynlluniau ad-drefnu dadleuol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae Cynghrair Iechyd Gogledd Cymru yn cynrychioli sawl grŵp ymgyrchu lleol sy'n gwrthwynebu cynlluniau i gau ysbytai a chanoli rhai gwasanaethau.

Daeth tua 30 o ymgyrchwyr at ei gilydd nos Lun o Landudno, Y Fflint, Prestatyn, Llangollen a Blaenau Ffestiniog mewn cyfarfod yn Llanelwy er mwyn ffurfio'r grŵp newydd.

Mi fydd y Gynghrair yn gofyn am gyngor cyfreithiol brys gyda'r nod o geisio cael adolygiad barnwrol.

Roedd rhai cynghorwyr sir yn bresennol yn y cyfarfod, ac fe wnaethon nhw gefnogi pleidlais o ddiffyg hyder ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am beidio ag ymgynghori'n ddigonol ar gynlluniau i gau ysbytai a symud gofal arbenigol i fabanod newydd anedig i Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri.

'Nerth mewn undod'

Cyhoeddodd y Gynghrair ddatganiad wedi cyfarfod sy'n dweud:

"Rydym wedi dod at ein gilydd gan fod nerth mewn undod. Rydym yn ystyried her gyfreithiol i'r broses gyfan.

"Mae'r cyngor yr ydym wedi ei dderbyn yn awgrymu bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn agored i her.

"Rydym ar ddeall bod bwrdd gweithredol y Cyngor Iechyd Cymuned yn cwrdd ddydd Mercher.

"Er ein bod wedi cael trafodaethau da gyda rhai o gynrychiolwyr lleol y Cyngor Iechyd Cymuned, mae gennym amheuon am y bwrdd gweithredol. Rydym yn gobeithio y bydd y bwrdd yn dechrau cynrychioli barn y gymuned."

Yn wyneb y posibilrwydd o adolygiad barnwrol, mae'r Gynghrair newydd hefyd wedi galw ar y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths i atal yr hyn y maen nhw'n ei ddisgrifio fel "cau drwy'r drws cefn" unrhyw adnoddau cymunedol ar draws gogledd Cymru heb sicrhau bod adnoddau digonol yn barod i gymryd eu lle.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.