Mesur i hybu seiclo a cherdded
Bydd Aelodau Cynulliad yn trafod mesur i hybu cerdded a seiclo yng Nghymru yn ddiweddarach.
Yn ôl un grwp ymgyrchu bydd y mesur Teithio Llesol yn helpu pobl i fod yn fwy iach ac yn fwy ymwybodol o'r amgylchedd.
Dywedodd y mudiad trafnidiaeth gynaliadwy Sustrans Cymru fod y mesur yn ymateb ymarferol i ordewdra ymhlith plant.
Os yw'r mesur yn cael ei gymeradwyo gan ACau bydd yn rhaid i awdurdodau lleol ei gwneud hi'n haws i fwy o bobl i gerdded a seiclo.
Byddai'n rhaid i gynghorau sicrhau bod llwybrau seiclo a lonydd sy'n rhydd o drafnidiaeth yn cysylltu safleoedd allweddol fel ysbytai, ysgolion a chanolfannau siopa.
Cyhoeddodd y gweinidog trafnidiaeth Carl Sargeant y mesur yn ysgol Millbank yng Nghaerdydd ddydd Llun.
'Gwlad iachach'Dywedodd: "Nod y Bil yw ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i fwy o bobl gerdded a beicio a'i gwneud yn bosibl i ragor o blant feicio i'r ysgol bob dydd.
"Rydyn ni am weld cerdded a beicio yn dod yn ffyrdd naturiol ac arferol o fynd o gwmpas, ac am sicrhau bod teithio llesol yn ffordd ymarferol o fynd ar deithiau byr.
"Bydd hyn yn sicrhau bod Cymru yn wlad iachach a mwy gwyrdd."
Bydd Mr Sargeant yn gwneud datganiad yn y Senedd yn ddiweddarach a bydd trafodaeth heddiw yn gychwyn ar wythnosau o graffu ar y mesur gan ACau.
Dywedodd y Ceidwadwyr eu bod yn croesawu'r hyn sydd yn cael ei wneud i fynd i'r afael â gordewdra.
Mewn datganiad dywedodd eu llefarydd ar drafnidiaeth, Byron Davies: "Nid y wladwriaeth yn dweud wrth bobl beth i'w wneud ddylai fod wrth wraidd y Bil, ond yn hytrach dylai ei gwneud hi'n haws i bobl gynnwys ymarfer corff yn eu trefniadau beunyddiol.
"Fel gwrthblaid adeiladol, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn craffu'n fanwl ar y ddeddfwriaeth ac yn gweithio tuag at weithredu strategaeth gadarn i annog teithio llesol."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~07~RS~)

Llywodraeth o dan y lach
Bradley'n arwain y daith i Japan
Gwrthod cais
'Mi glywish i'r awyren yn dod lawr'
Achub Y Cyfnod