Heddlu Gwent yn chwilio am ddyn yn ardal Nelson
Dydi Keri Phillips ddim wedi cael ei weld ers Chwefror 3
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth i ganfod dyn 45 oed yn ardal Nelson.
Cafodd yr heddlu wybod fod Keri Phillips ar goll ddydd Iau Chwefror 15.
Ond does neb wedi gweld Mr Phillips ers tua 3pm ar Chwefror 3.
Roedd o yn ardal Nelson ar y pryd.
Credir ei fod yn gwisgo jîns, siaced dew brown, bŵts a het.
Mae o wedi cael ei ddisgrifio fel dyn 6 troedfedd 1 modfedd o daldra, gwallt tywyll brown.
Mae ganddo sawl tatŵ ar ei freichiau a'i gefn yn ogystal â gwennol ar bob llaw.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylen nhw gysylltu gyda Heddlu Gwent ar 101.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~50~RS~)

Pryder am gost gwasanaethau cymdeithasol
Damwain awyren: Un wedi marw
Golwg gyntaf ar gadair a choron
Enillwyr cystadlaethau celf Yr Urdd
Beth yw'r ots am ramadeg y Gymraeg?
Tipyn o gamp