Morglawdd yn 'niweidiol' i economi Cymru yn ôl Maer Bryste
Dywed cefngowyr y morglawdd y bydda'in creu 5% o ynni'r DU
Fe fyddai morglawdd newydd ar draws Môr Hafren yn niweidio economi Cymru, yn ôl Maer Bryste.
Dywedodd George Ferguson y byddai'r morglawdd yn cael effaith niweidiol petai masnach ym mhorthladd Avonmouth yn cael ei effeithio o ganlyniad i'r cynllun arfaethedig gwerth £30 biliwn.
Mae o hefyd yn gwrthwynebu'r cynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i brynu Maes Awyr Caerdydd.
Mae ymgyrchwyr ar gyfer y morglawdd yn dweud y gallai ddarparu 5% o drydan y DU a chreu miloedd o swyddi.
Wrth gael ei holi ar raglen Sunday Politics y BBC dywedodd Mr Ferguson ei fod yn bryderus y byddai'r morglawdd yn atal neu yn arfau llongau rhag mynd i mewn i Avonmouth.
"Dwi'n credu ei fod er lles yr ardal gyfan bod 'na borthladd llwyddiannus ym Môr Hafren ac mae Avonmouth yn borthladd llwyddiannus," meddai.
"Os fydd masnach y porthladd yn cael ei effeithio yna fe fydd yn cael effaith arno ni i gyd."
Allforio technolegDywedodd y maer, a gafodd ei ethol ym mis Tachwedd, nad ydi o'n gweld fawr o werth economaidd nac amgylcheddol o'r morglawdd.
Ychydig i fudd economaidd neu amgylcheddol fydd y morglawdd yn ei ddenu yn ôl Maes Bryste George Ferguson
"Dwi'n credu bod 'na ffyrdd gwell o ddefnyddio'r llanw a ffyrdd eraill o bŵer o Fôr Hafren," meddai.
"Mae 'na ffyrdd gwell hefyd o ran technoleg. Fe allwn ni ddatblygu technoleg o fewn yr ardal a all gael ei allforio i weddill y byd."
Fe ychwanegodd Mr Ferguson bod na golli cyfle am nad oes modd allforio morglawdd a bod angen trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a chynghorau ynglŷn â chydweithio yn y dyfodol.
Dywedodd Yr Athro Brian Morgan, aelod o fwrdd rhanbarthol Pŵer Hafren - y cwmni tu ôl i'r cynllun - bod sylwadau Mr Ferguson yn "afresymol".
"Mae Cymru angen y rhwydwaith a'r buddsoddiad. Mae'n gyfle gwych.
"Fe fydd yn atyniad i dwristiaid a bydd swyddi yn cael eu creu."
CwestiynauDywedodd AS De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty, wrth y rhaglen fod ganddo feddwl agored am y morglawdd.
"Yn amlwg mae newid hinsawdd yn her yn ogystal â'n hanghenion ynni yn y dyfodol.
"Ond mae 'na lot o gwestiynau sydd ddim wedi cael ei hateb o ran y morglawdd, yn nhermau peirianwaith a'r effaith ar y porthladdoedd.
"Mae angen atebion cyn symud y drafodaeth ymhellach ymlaen."
Ychwanegodd Alun Cairns, AS Bro Morgannwg y byddai'r gwaith yn golygu strwythur ffordd enfawr drwy ei etholaeth ac is-orsaf yn Y Barri.
"Mae'r rhain yn bwyntiau pwysig iawn.
"Wyddon ni ddim a yw'r arian ar gael, pa mor hir fydd hyn yn ei gymryd.
"Allwn ni ddim ei wrthwynebu'n gyfan gwbl, mae angen edrych arno yn fanylach."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~55~RS~)

Llywodraeth o dan y lach
Bradley'n arwain y daith i Japan
Gwrthod cais
'Mi glywish i'r awyren yn dod lawr'
Achub Y Cyfnod