Y chwilio am Ben Thompson yn parhau
Ben Thompson yn croesi Heol Lecwydd, Caerdydd, am 7:17pm nos Sadwrn, Chwefror 2, 2013
Mae timau arbenigol yn parhau i chwilio am ddyn 34 oed o Hwlffordd a ddiflannodd ar ôl mynd i weld gêm Cymru yn erbyn Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm ar Chwefror 2.
Bydd offer arbenigol yn cael ei ddefnyddio i chwilio aber afon Elái unwaith eto.
Roedd Mr Thompson wedi teithio i Gaerdydd gyda'i ffrind wedi iddo ennill tocynnau ar gyfer gêm gyntaf Cymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Fe ffoniodd ei wraig Jo wedi'r gêm i ddweud wrthi ei fod yn mynd i'w hoff dafarn yn y ddinas.
Fe'i gwelwyd gan ffrindiau am y tro olaf yn Lôn y Felin tua 6.30pm.
Mae lluniau teledu cylch cyfyng yn ei ddangos yn croesi Heol Lecwydd i gyfeiriad Lawrenny Avenue am 7.17pm.
Mae'r lluniau yn ei ddangos funudau wedyn yn cerdded i lawr lôn ar waelod y ffordd honno.
Dywed yr heddlu nad oes neb wedi gweld Mr Thompson ers hynny ac nad yw ei ffôn symudol wedi cael ei ddefnyddio chwaith.
Ddydd Iau a dydd Gwener ddiwethaf bu timau arbenigol yn canolbwyntio ar afon Elái rhwng pont Bryn Lecwydd a'r aber ger Clwb Hwylio Bae Caerdydd.
Cefnogaeth
Aeth Mr Thompson i'r gêm yn Stadiwm y Mileniwm ar Chwefror 2
Dywedodd yr heddlu eu bod mewn cysylltiad cyson gyda theulu Mr Thompson.
"Maen nhw'n naturiol yn bryderus," meddai llefarydd.
"Mae swyddog arbenigol yr heddlu gyda nhw."
Mae Mr Thompson yn 5 troedfedd 9 modfedd o daldra, gyda gwallt byr brown a llygaid glas.
Roedd yn gwisgo bŵts brown, jîns glas a chrys gwyn gyda streipen las denau.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth, dylid cysylltu gyda'r heddlu yng Ngorsaf Bae Caerdydd ar 02920 338 465.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~21~RS~)

Addysg: 'llai o awdurdodau lleol'
Hafan y Llewod ar bbc.co.uk/cymru
Hyrwyddo Maes B
'Enillydd teilwng'
Ymgynghori?