Cannoedd yn gorymdeithio yn erbyn cynlluniau i gau Ysbyty Blaenau Ffestiniog
Roedd tua 800 o bobl yn gorymdeithio drwy Flaenau Ffestiniog ddydd Sadwrn i brotestio ynglŷn â chynlluniau i gau ysbyty'r dref.
Mae hynny'n un o'r newidiadau y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi eu cyhoeddi wrth iddyn nhw geisio ad-drefnu gwasanaethau iechyd yn y gogledd.
Siôn Tecwyn fu yn gwylio'r brotest ac yn cael ymateb Geraint Vaughan Jones, Cadeirydd Pwyllgor Amddiffyn Ysbyty Blaenau Ffestiniog, a rhai o'r gorymdeithwyr.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~19~RS~)
