Dynes mewn cyflwr difrifol wedi tân mewn fflat yng Nghonwy
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle tua 5.18pm nos Wener
Mae dynes 34 oed a gafodd ei hachub o dân mewn fflat yng nghanol tref Conwy mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Mae hi'n derbyn triniaeth yn yr uned gofal dwys.
Llwyddodd dyn 36 oed i ddianc o'r tân ac mae o'n derbyn triniaeth am effeithiau anadlu mwg wedi'r digwyddiad yn y fflat llawr cyntaf yn Stryd Berry.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad tua 5.18pm nos Wener ar ôl i berchennog adeilad gerllaw weld y mwg a'r fflamau.
Mae'r gwasanaeth tân a'r heddlu yn ymchwilio.
Cafodd criwiau o Gonwy a Llandudno eu galw i'r digwyddiad.
Bu'n rhaid i'r diffoddwyr ddefnyddio offer anadlu arbennig i fynd i mewn i'r adeilad i achub y ddynes a diffodd y fflamau.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~28~RS~)

Rhybudd am doriadau 'hunllefus'
Hafan y Llewod ar bbc.co.uk/cymru
'Chwalu'r myth'
Ar flaen eich bysedd
Hyrwyddo Maes B