Damwain farwol: Heddlu'n apelio

Straeon Perthnasol

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion ar ôl i ddyn farw oherwydd gwrthdrawiad rhwng beic modur a dau gar brynhawn Iau.

Roedd y gwrthdrawiad rhwng beic modur Yamaha, Ford Focus glas a Peugeot 308 arian ar yr A40 rhwng Treletert ac Abergwaun toc wedi 4pm ddydd Iau.

Bu farw y beiciwr modur yn y fan a'r lle ac mae teulu'r dyn 25 oed a'r crwner wedi eu hysbysu.

Roedd yr A40 ynghau i'r ddau gyfeiriad rhwng Cylchfan Llwynhelyg ac Abergwaun am gyfnod nos Iau.

Dylai unrhywun â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar 101.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.