Ysbyty Cefn Coed: Bwrdd iechyd o dan y lach
Bu farw'r dyn bedwar mis wedi iddo gyrraedd yr ysbyty.
Mae bwrdd iechyd wedi cael ei gyfeirio i gorff sy'n adolygu ansawdd a diogelwch gofal oherwydd adroddiad beirniadol am ddiffyg gofal dyn 77 oed â dementia.
Bu farw bedwar mis wedi iddo gyrraedd ysbyty seiciatrig Cefn Coed yn Abertawe yn 2009.
Dywedodd adroddiad ombwdsmon nad oedd yr ysbyty wedi atal briwiau gwasgu na lleddfu ei boen yn ddigonol.
Mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, gafodd ei gyfeirio i Arolygiaeth Gofal Cymru, wedi ymddiheuro.
Cyfeiriodd Peter Tyndall, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, at "fethiannau difrifol" wrth ofalu am y claf, sy'n cael ei adnabod fel Mr O.
Roedd dau adroddiad blaenorol, meddai, am safon gofal cleifion rhai ysbytai eraill yn ardal y bwrdd iechyd wedi cyfeirio at fethiannau tebyg.
Ymateb y bwrdd iechyd
Dywedodd y bwrdd iechyd fod llawer o waith wedi ei wneud i leihau nifer y briwiau gwasgu.
"Dydyn nhw ddim yn dderbyniol ac yn y rhan fwya' o achosion mae modd eu hosgoi," meddai llefarydd.
Yn 2008, meddai, dechreuodd rhaglen gynhwysfawr.
"Roedd rhaglen beilot lwyddiannus yn 2009 mewn ychydig o wardiau aciwt.
"Erbyn hyn, mae naw o wardiau yn ein hysbytai i gyd wedi atal briwiau gwasgu am fwy na thair blynedd a saith o wardiau wedi eu hatal am fwy na dwy flynedd."
Dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai'r arolygiaeth yn ystyried ei adroddiad wrth drefnu archwiliadau.
Roedd asesiad yn golygu bod Mr O "mewn perygl" o gael briwiau gwasgu.
Er gwaetha'r risg, ni chafodd ei asesu eto wedi iddo gael "briw sylweddol".
Dywedodd yr adroddiad na chafodd gyfle i weld dietegydd na therapydd llafar er bod problemau llyncu am fod amheuaeth iddo gael strôc fechan yn yr ysbyty.
Gorchmynnodd yr ombwdsmon y bwrdd iechyd i ymddiheuro i ferch Mr O a thalu £2,000.
'Newidiadau mawr'Dywedodd y bwrdd iechyd fod "newidiadau mawr" wedi bod ers y cyfnod pan oedd Mr O yn glaf yn yr ysbyty.
"Erbyn heddiw, mae'r cyfraddau briwiau gwasgu yn ein hysbytai ymhlith yr isaf yn y byd," meddai'r datganiad.
"Yn 2008 y gyfradd oedd 13%, oedd yn nodweddiadol o'r Gwasanaeth Iechyd, ond erbyn Rhagfyr 2012, y gyfradd oedd 1%."
Yn ogystal roedd "trefn ansawdd a diogelwch" wedi ei chyflwyno yn eu gwasanaethau iechyd meddwl.
"Mae'r bwrdd iechyd yn ymdrechu i wella'r gofal - a dysgu gwersi os yw rhywbeth yn mynd o'i le."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~41~RS~)

'Sylw i Loegr' yn niweidio democratiaeth
Cymraes yw gobaith mawr Prydain
Golwg gyntaf ar gadair a choron
Enillwyr cystadlaethau celf Yr Urdd
Beth yw'r ots am ramadeg y Gymraeg?