Cig: Tri wedi eu harestio

Cig ceffyl Roedd yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi archwilio'r ddau safle ddydd Mawrth.

Mae'r heddlu wedi dweud bod dau wedi eu harestio ar safle ffatri gig yn Llandre yng Ngheredigion.

Cafodd un arall ei arestio mewn lladd-dy yn Sir Efrog.

Roedd yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi archwilio'r ddau safle ddydd Mawrth.

Yn Farmbox Meats ger Aberystwyth cafodd dyn 64 oed a dyn 42 oed eu harestio. Mae'r BBC yn deall taw un ohonyn nhw yw'r perchennog, Dafydd Raw-Rees.

DATBLYGIADAU ERAILL

  • Asiantaeth Safonau Bwyd yn mynnu bod busnesau bwyd yn gwirio a oes olion cig ceffyl mewn cynnyrch fel byrgyrs a lasagne. Mae disgwyl y canlyniadau cynta' ddydd Gwener;
  • Pryder bod rhai ceffylau'n cael cyffur o'r enw 'bute' (phenylbutazone) all fod yn beryglus i bobl;
  • Yr Undeb Ewropeaidd yn annog gwladwriaethau i gynnal hapbrofion am gig ceffyl mewn cynnyrch eidion wedi ei brosesu;
  • Cig eidion ddim ym mhrydau ysgolion yn Sir Stafford oherwydd y sgandal cig eidion;
  • Adroddiad Pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Tŷ'r Cyffredin yn galw am bwerau cryfach i'r Asiantaeth Safonau Bwyd fel bod modd gorfodi cynhyrchwyr cig i gynnal profion.

Yn Lladd-dy Peter Boddy yn Todmorden, Sir Efrog, cafodd dyn 63 oed ei arestio.

Cafodd y tri eu harestio ar amheuaeth o droseddau'n ymwneud â'r Ddeddf Dwyll.

Maen nhw'n cael eu holi yng Ngorsaf Heddlu Aberystwyth.

Gwadu

Eisoes mae'r ddau gwmni wedi gwadu eu bod wedi gwneud unrhywbeth o'i le.

Nos Fawrth dywedodd yr asiantaeth eu bod yn atal y gwaith yn y ffatri yn Llandre ac yn y lladd-dy yn Todmorden.

Y gred yw bod y lladd-dy yn cyflenwi cyrff ceffylau i'r ffatri yn Llandre.

Mae'r heddlu a swyddogion yr asiantaeth wedi mynd â chig a gwaith papur, gan gynnwys rhestrau cwsmeriaid, o'r ddau safle.

Ynghynt ddydd Iau roedd 'na alw ar bob cyngor yng Nghymru i brofi cig sy'n mynd i'r gadwyn fwyd.

Yn y cyfamser, mae Asda wedi cadarnhau bod olion cig ceffyl wedi ei ddarganfod yn un o'u cynnyrch cig eidion ffresh.

Bydd eu poteli saws bolognese eidion 500 gram yn cael eu tynnu oddi ar silffoedd yn syth.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


  • Dolffiniaid'Y cysylltiad agos'

    Dathlu'r cysylltiad rhwng Ceredigion a dolffiniaid trwynbwl ar ddiwrnod arbennig.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.