Darganfod corff dyn mewn afon yn Sir Gaerfyrddin

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dod o hyd i gorff dyn 25 oed mewn afon yn Sir Gaerfyrddin.

Cadarnhaodd swyddogion iddynt dynnu'r corff o Afon Aman yn ardal Rhydaman ddydd Iau.

Gwelwyd y dyn yn mynd i mewn i'r afon wrth bont ger Clwb Rygbi Brynaman tua 3:45am ddydd Iau.

Bu'r gwasanaethau brys yn chwilio amdano am rai oriau, gyda swyddogion o Heddlu Dyfed Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Tîm Achub Mynydd Aberhonddu yn rhan o'r gwaith, yn ogystal â hofrennydd o RAF Chivenor.

Cafwyd hyd i'r corff toc cyn 8:00am ger Pont Nant Gwyn, ymhellach i lawr yr afon.

Mae teulu'r dyn a'r crwner wedi cael eu hysbysu.

Mwy Am y Stori Hon

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Bryn TerfelCyngerdd i ddathlu pen-blwydd

    Bryn Terfel yn cyhoeddi manylion am gyngerdd i ddathlu ei ben-blwydd yn 50.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.