Tata: Colled o £50m mewn tri mis
Mae cwmni dur Tata, sy'n cyflogi rhyw 7,500 o bobl yng Nghymru, wedi dweud bod gostyngiad sylweddol yn eu helw yn Ewrop.
Yn ôl ffigyrau ar gyfer tri mis diwethaf 2012, roedd colledion o £50m tra oedd colledion o £5m yn ystod y tri mis cynt.
Ond mae'r golled yn llai na'r golled o £91m yn ystod tri mis olaf 2011.
Mae'r cwmni'n gobeithio y bydd eu perfformiad yn gwella ar ôl dechrau defnyddio'u ffwrnais newydd ym Mhort Talbot ddydd Mawrth.
'Llai o alw'Roedd y prosiect i ailadeiladu un o'r ddwy ffwrnais ar y safle wedi costio £185 miliwn.
Dywedodd y cwmni mai "llai o alw" oedd y broblem allweddol yn wynebu cwmnïau dur Ewrop yn 2012.
Dywedodd prif weithredwr Tata yn Ewrop, Karl Kohler: "Rydym wedi adfer ein hyblygrwydd wrth ailagor Ffwrnais Rhif 4 ym Mhort Talbot yr wythnos hon.
"Bydd hyn yn ein galluogi i wella ein perfformiad a gwella ein gwasanaeth ar gyfer ein cwsmeriaid."
Bydd yr haearn tawdd o'r ffwrnais yn cael ei droi'n ddur ar gyfer y diwydiannau adeiladu, ceir, codi a chloddio, offer domestig a phecynnu.
Mae'r safle ym Mhort Talbot yng nghanol y cyfnod mwyaf o ddiswyddiadau ers mwy na 20 mlynedd.
Fis Tachwedd cyhoeddodd Tata y byddai mwy na 500 o swyddi yng Nghymru yn cael eu colli, y rhan fwyaf ym Mhort Talbot.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~10~RS~)

Pryder am gost gwasanaethau cymdeithasol
Damwain awyren: Un wedi marw
Golwg gyntaf ar gadair a choron
Enillwyr cystadlaethau celf Yr Urdd
Beth yw'r ots am ramadeg y Gymraeg?
Tipyn o gamp