Graddfa droseddu ymysg yr ifanc yn gostwng yng Nghymru
Nifer y troseddwyr ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi gostwng o 519 yn 2010-11 i 209 yn 2011-12.
Mae nifer y plant a phobl ifanc sy'n troseddu yng Nghymru yn gostwng, yn ôl ffigyrau newydd.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae Timau Troseddau Ieuenctid Cymru wedi cofnodi gostyngiad o ran nifer y plant rhwng 10 oed a 17 oed.
Dywedodd y gwasanaeth fod cynllun sy'n targedu plant sy'n debygol o droseddu fel y rhai sy'n dechrau mynd yn absennol o'r ysgol yn un o'r rhesymau am y gostyngiad.
Ers 10 mlynedd mae nifer troseddau pobl ifanc sydd wedi eu cofnodi yn Abertawe wedi gostwng o 2,044 i 428 y llynedd.
Dywedodd adroddiad ar gyfer Cyngor y Ddinas fod gostyngiad troseddau rhwng 2001-02 a 2011-12 "wedi arbed £2.8 miliwn o arian cyhoeddus yn Abertawe".
Yn y ddinas mae nifer o gyrff, gan gynnwys yr heddlu a'r adran gwasanaethau cymdeithasol, yn penderfynu a ddylai troseddwr ifanc gael "ail gyfle" yn lle cael ei erlyn.
'Ail gyfle'"Mae'r cynllun yn rhoi cyfle i droseddwyr ifanc wneud iawn am eu hymddygiad a chael ail gyfle," meddai Dusty Kennedy, pennaeth Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru.
Dywedodd fod timau troseddwyr ifanc yng Ngwynedd ac Ynys Môn wedi llwyddo i leihau troseddau pobl ifanc rai blynyddoedd yn ôl gan gydweithio â'r heddlu ac ysgolion i addysgu plant ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Ychwanegodd fod Tîm Troseddau Ieuenctid Abertawe wedi cofnodi fod nifer y plant oedd yn ail-droseddu rhwng 2001 a 2012 wedi gostwng o 204 i 23.
Yn ôl Mr Kennedy, un rheswm am y gostyngiad oedd creu cynllun "pythefnos euraid" pan mae pobl ifanc sydd wedi cyflawni mân droseddau yn cael eu hasesu.
Mae hyn yn cynnwys rhoi cyfle i rieni'r plant helpu newid ymddygiad y plentyn.
Gostyngiad mwyafYn ôl ffigyrau Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr, roedd y gostyngiad mwyaf yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn ardal Castell-nedd Port Talbot.
Mae nifer y troseddwyr ifanc yno wedi gostwng o 519 yn 2010-11 i 209 yn 2011-12.
Roedd y gostyngiad lleiaf yng Ngwynedd ac Ynys Môn ond mae'r bwrdd wedi dweud fod gostyngiadau mawr o'r blaen am fod y gwaith atal troseddu wedi dechrau'n gynt.
Nid yw'r ffigyrau cyfredol ar gyfer Caerdydd ar gael oherwydd problemau technegol cofnodi'r data.
Felly er bod y ffigyrau ar gyfer Cymru yn dangos bod 2,770 yn llai o droseddwyr ifanc yn 2011-12 nag yn 2010-11 nid yw'r ffigyrau yn adlewyrchiad cwbl gywir o ran nifer y troseddwyr.
Nifer trosedwyr ifanc rhwng 10-17 oed yn Nghymru |
|||
|---|---|---|---|
| Ardal tîm troseddau ieuenctid | 2010-11 | 2011-12 | Canran y gostyngiad |
|
Ffynhonnell: Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr *Gwybodaeth yn anghyflawn |
|||
|
Blaenau Gwent a Chaerffili |
1,064 |
895 |
15.8% |
|
Pen-y-bont arOgwr |
411 |
251 |
38.9% |
|
Caerdydd |
1,114 |
628* |
Ddim ar gael |
|
Sir Gâr |
722 |
506 |
29.9% |
|
Ceredigion |
248 |
201 |
18.9% |
|
Conwy a Sir Ddinbych |
619 |
418 |
32.4% |
|
Sir Y Fflint |
342 |
272 |
20.4% |
|
Gwynedd ac Ynys Môn |
441 |
416 |
5.6% |
|
Merthyr Tudful |
331 |
209 |
36.8% |
|
Sir Fynwy a Thorfaen |
599 |
538 |
10.1% |
|
Castell-nedd Port Talbot |
519 |
209 |
59.7% |
|
Casnewydd |
728 |
567 |
22.1% |
|
Sir Benfor |
429 |
305 |
28.9% |
|
Powys |
316 |
246 |
22.1% |
|
Rhondda Cynon Taf |
834 |
581 |
30.3% |
|
Abertawe |
638 |
466 |
26.9% |
|
Bro Morgannwg |
282 |
244 |
13.4% |
|
Wrecsam |
544 |
485 |
10.8% |
|
Cyfanswm Cymru |
10,181 |
7,408* |
Ddim ar gael |
~RS~q~RS~~RS~z~RS~51~RS~)

Colli gwasanaethau arbenigol?
Dyn wedi ei ladd mewn ymosodiad 'terfysgol'
Llwyfan i dalent y sir
Guggenheim i Gymru?
Bradley'n arwain y daith
Cân y babis