Dim cyhuddiadau yn erbyn eiriolwr iechyd meddwl y llofrudd Ian Brady
Cafodd Ian Brady ei garcharu am oes yn 1966
Fydd eiriolwr iechyd meddwl llofrudd y Moors, Ian Brady, ddim yn wynebu cyhuddiadau mewn cysylltiad â methu datgelu gwybodaeth am leoliad gweddillion un o'i ddioddefwyr.
Cafodd Jackie Powell o Sir Gâr ei harestio y llynedd wedi i'r heddlu gael gwarant i archwilio tŷ yn ne Cymru.
Fe gafodd ei harestio ar amheuaeth o atal corff y plentyn Keith Bennett rhag cael ei gladdu yn gyfreithiol.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron ddydd Llun na fyddai unrhyw gamau pellach yn ei herbyn.
Mae Brady yn cael ei gadw yn Ysbyty Meddwl Ashworth ar Lannau Mersi.
Fe lofruddiodd y dyn 74 oed a Myra Hindley bump o blant rhwng 1963 a 1965 yn ardal Manceinion.
Keith Bennett yw'r unig un na ddaethpwyd o hyd iddo.
Cafodd Ms Powell ei harestio ar ôl iddi ddweud wrth raglen ddogfen fod Brady wedi rhoi amlen wedi ei selio iddi i'w throsglwyddo i Winnie Johnson, mam Keith, wedi marwolaeth Brady.
Chafodd y llythyr ddim ei ganfod.
Bu farw Mrs Johnson ym mis Awst 2012 ac nid oedd yn gwybod lle oedd ei mab wedi ei gladdu.
Dywedodd John Dilworth, o Wasanaeth Erlyn y Goron Gogledd Orllewin Lloegr eu bod wedi penderfynu "ar ôl ystyriaeth ofalus na ddylai Ms Powell gael ei chyhuddo am nad oedd modd sefydlu ei bod yn gwybod cynnwys y llythyr....bod y llythyr yn bodoli na pha wybodaeth y gallai ei gynnwys" ac mai'r unig dystiolaeth o fodolaeth y llythyr oedd gan Ms Powell wrth gael ei chyfweld.
"dywedodd ei bod yn credu y gallai gynnwys gwybodaeth am leoliad Keith Bennett....a does 'na ddim digon o wybodaeth i brofi ei bod wir yn credu ei fod yn cynnwys y wybodaeth a nodwyd.
Ychwanegodd Mr Dilworth eu bod wedi cysylltu gyda brawd Keith Bennett I egluro eu penderfyniad ac i gynnig cyfarfod i drafod hyn.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~44~RS~)

Addysg: 'llai o awdurdodau lleol'
Hafan y Llewod ar bbc.co.uk/cymru
Hyrwyddo Maes B
'Enillydd teilwng'
Ymgynghori?