Ceisio am arian i godi cofeb i'r Cymry fu farw yn Fflandrys

Dyluniad cofeb bosib Dyluniad cofeb bosib

Straeon Perthnasol

Bu'n rhaid i'r heddlu gau'r hewl, roedd 'na gymaint o dorf.

Mae gwylnos yn cael ei chynnal ger y man lle bu farw Hedd Wyn bob mis, ond ar nos Lun gynta' Chwefror eleni daeth tua 150 o bobl ynghyd.

Cyn filwyr, aelodau'r frigâd dân, ficer lleol, a thrigolion ardal Langemark ar gyrion Ypres - yng ngolau cannwyll, gweddïodd oedolion a phlant dros y tua 32,000 o Gymry a gafodd eu lladd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Y peth syfrdanol yw mai llond llaw yn unig o'r bobl oedd ag unrhyw gysylltiad â Chymru.

Mae dyled Fflandrys yn fawr i'r bechgyn a anfonwyd yma fel oen i'r lladd-dy.

Cromlech a draig

Iwerddon, Yr Alban, Awstralia, Seland Newydd, Canada - mae gan bob gwlad oedd â milwyr yma'n ymladd rhwng 1914 a 1918 gofeb genedlaethol.

Pob gwlad heblaw am Gymru.

Nawr mae Cymdeithas Passchendaele, sy'n cymryd ei henw gan un o frwydrau mwyaf gwaedlyd y rhyfel, am newid hynny.

Adroddiad Rhodri Llywelyn o Ypres, Fflandrys

Dafliad carreg o'r plac i Hedd Wyn, sydd gyferbyn â chaffi De Sportman lle mae arddangosfa'n olrhain hanes "y bardd trwm dan bridd tramor", mae darn o dir wedi ei neilltuo ar gyfer cofeb i'r holl Gymry a gafodd eu lladd.

Ar gost o £30,000, mae pobl Fflandrys yn barod i dalu am y gwaith tirlunio, meinciau a man aros i fysiau.

Cyfrifoldeb ymgyrchwyr yng Nghymru fydd codi'r gofeb.

Mae cynlluniau am gromlech tua thri metr o uchder ag arni ddraig fawr fetel.

Er bod chwarel o ardal Pontypridd wedi addo rhoi meini yn ddi-dâl, mae disgwyl i'r gwaith o'u cludo nhw i Fflandrys, a chreu'r ddraig gostio rhwng £60,000 a £70,000.

Dim ond £11,000 sydd yn y coffrau hyn o bryd, ac mae Jim Lloyd o Bwyllgor Cofeb i'r Cymry yn Fflandrys yn poeni.

"Mae'n bosib allwn ni fethu, ond buasai hynny yn warthus…petai ni yn methu fel cenedl i gofio'r holl bobl a gafodd eu lladd."

Cymorth

Mae'r Pwyllgor wedi gofyn am help gan Lywodraeth Cymru ond does dim addewid o arian hyd yma.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Mi fyddwn ni'n parhau i weithio'n adeiladol gyda'r grŵp er mwyn gweld pa help a ellir ei roi er mwyn iddyn nhw gyflawni eu hamcanion.

"Rydym ni wedi eu cynghori nhw i greu corff elusennol… er mwyn datblygu eu cynlluniau."

Rhodri Llywelyn ar y darn tir mydlyd lle mae disgwyl i'r gofeb gael ei chodi Rhodri Llywelyn ar y darn tir mwdlyd lle mae disgwyl i'r gofeb gael ei chodi

Wrth egluro i gofeb gostus y Gwyddelod gael ei hariannu gan Lywodraethau Prydain ac Iwerddon, mae Jim Lloyd yn ofni y gallai Cymdeithas Passchendaele osod y cynlluniau i'r naill ochr os na ddaw Gweinidogion Bae Caerdydd i'r adwy.

"Falle basen nhw'n tynnu'n ôl, ac yn dweud anghofiwch yr holl beth."

Yr hanesydd Syr Deian Hopkin sydd wedi cael ei benodi gan y Prif Weinidog Carwyn Jones fel ymgynghorydd Llywodraeth Cymru ar y digwyddiadau i nodi 100 mlynedd ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Dyw ei eiriau'n cynnig fawr o obaith i'r ymgyrchwyr.

"Cymunedau annibynnol, unigolion, cymdeithasau fydd yn cyfrannu'n fwy nac efallai'r wladwriaeth ei hun achos dwi ddim yn credu, yma yng Nghymru nac yn Lloegr, y bydd 'na fawr o awydd i wario arian cyhoeddus," meddai.

Amser yn brin

'Nôl yn Langemark wrth sefyll ym mwd y darn o dir y mae'n dymuno ei drawsnewid yn hafan Gymreig, dywedodd Erwin Ureel o Gymdeithas Passchendaele fod amser yn brin, a phosibilrwydd na fydd y gofeb yn barod mewn pryd.

Mae pwyllgor Cofeb i'r Cymry yn Fflandrys wrthi'n trefnu cyngherddau apêl ac yn cydweithio gydag ysgolion a'r Lleng Brydeinig er mwyn ceisio codi arian.

Os oes cromlech i gofio am aberth milwyr Cymru yn ystod y Rhyfel Mawr i gael ei chodi ymhen blwyddyn, bydd rhaid cael y maen i'r wal.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.